成人快手

Covid: 49% yn fwy mewn ysbytai a 946 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Andrew Goodall

Mae nifer y cleifion yn ysbytai oherwydd y coronafeirws wedi cynyddu 49% o fewn wythnos.

Dywedodd pennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bod dros 700 o bobl yn cael gofal - y nifer uchaf ers mis Mehefin.

Dywedodd Andrew Goodall y byddai'r galw am welyau yn parhau i gynyddu, ac y gallai'r gaeaf fod y "mwyaf heriol" yn ei yrfa.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 946 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf a 10 yn rhagor o farwolaethau.

Dyma'r nifer uchaf o achosion newydd mewn cyfnod o 24 awr ers dechrau'r pandemig.

Roedd 214 o'r achosion newydd yng Nghaerdydd, 89 yn Rhondda Cynon Taf ac 87 yn Abertawe. Yn ogystal roedd 91 achos mewn pobl sy'n byw y tu allan i Gymru, gyda ICC yn dweud mai myfyrwyr sydd mewn prifysgolion y tu allan i Gymru yw'r mwyafrif o'r rhain.

Daw sylwadau Dr Goodall wrth i Lywodraeth Cymru ddweud y bydd penderfyniad ar gyfyngiadau yn cael ei wneud erbyn diwedd yr wythnos.

Mae nifer yr achosion o Covid-19 mewn ysbytai yn 326, cynnydd o 70% ers pythefnos yn 么l.

Dywedodd Dr Goodall bod hynny hanner yr uchafswm oedd ym mis Ebrill, ond ei fod yn "pryderu am y trend sy'n cynyddu".

"Os ydyn ni'n gweld dyblu yn y capasiti, fel oedd ym Mawrth ac Ebrill, nid yw'n cymryd llawer o fathemateg i weld y gallwn gael system sydd dan bwysau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd Dr Goodall bod rhestrau aros wedi cynyddu oherwydd bod llai o driniaethau arferol yn digwydd.

Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: "Fe ddylai Llywodraeth Cymru a'r GIG Cymreig sefydlu ysbytai sydd yn rhydd o Covid-19 fel y gall pobl barhau i dderbyn llawdriniaethau arferol.

"Rwyf wedi derbyn llawer o ohebiaeth am hyn gan bobl sydd yn bryderus iawn am lawdriniaethau cyffredinol a'r amseroedd y mae'n rhaid i bobl aros."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i'r GIG fod 芒 bron chwe mis o gyflenwadau PPE erbyn diwedd Tachwedd

'Sefyllfa gref' o ran offer diogelwch

Dywedodd Dr Goodhall fod y GIG "mewn sefyllfa dda iawn" ar hyn o bryd o ran offer diogelwch personol, a bod disgwyl y bydd 芒 gwerth bron i chwe mis o gyflenwadau erbyn diwedd mis Tachwedd.

Mae tua 370m o eitemau wedi'u darparu hyd yn hyn - tua hanner ar gyfer gofal cymdeithasol.

"Mae gyda ni tua 181m o eitemau mewn stoc a thros 300m wedi'u harchebu," meddai.

Dywedodd bod cyn lleied ag "ychydig ddyddiau o gyflenwad" yn achos rhai eitemau yn gynharach yn y pandemig "felly rwy'n meddwl fod cael 24 wythnos [o gyflenwadau] yn ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn ar gyfer y gaeaf".