³ÉÈË¿ìÊÖ

Atal teithiau o ardaloedd risg uchel Covid-19 i Gymru

  • Cyhoeddwyd
osgoi teithioFfynhonnell y llun, Antony Humphreys

Bydd pobl yn cael eu hatal rhag teithio o ardaloedd sydd â lefelau uchel Covid-19 i Gymru, mae'r prif weinidog wedi cyhoeddi.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y bydd y gwaharddiad yn dod i rym am 18:00 ddydd Gwener.

O dan y rheoliadau newydd ni fydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o achosion o'r coronafeirws yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru am y tro.

Mae llywodraeth y DU wedi mynegi siom fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gweithredu ar ben eu hunain "yn hytrach na chydweithio gyda rhannau eraill o'r DU".

Roedd Mr Drakeford wedi rhybuddio bod Llywodraeth Cymru â'r pwerau i gyflwyno'r fath orchymyn petai Llywodraeth y DU'n parhau i gynghori pobl i osgoi teithio o'r ardaloedd dan sylw yn hytrach na newid y rheol ar deithio.

Dywedodd y llywodraeth bod Mr Drakeford wedi gweithredu "am nad yw Prif Weinidog y DU wedi ymateb i geisiadau" am gyflwyno rheolau pendant.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae rhan helaeth o Gymru bellach o dan gyfyngiadau lleol oherwydd cynnydd yn lefelau'r feirws, ac nid yw trigolion yr ardaloedd hynny yn cael teithio y tu hwnt i ffiniau eu siroedd heb esgus rhesymol.

"Nod hyn yw atal heintiau rhag lledaenu yng Nghymru ac i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

"Rydyn ni'n paratoi i gymryd y camau hyn i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig lle mae cyfraddau heintio Covid yn uwch rhag teithio i Gymru a dod â'r feirws gyda nhw."

Ychwanegodd Mr Drakeford bod dadansoddiad o garthion yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor, "yn dangos bod ymwelwyr o'r tu hwnt i Gymru yn dod â'r feirws gyda nhw".

Dywedodd hefydei bod yn gwbl bosib gweithredu'r gwaharddiad ar deithio am fod Cymru "wedi gwneud yn union hyn am wythnosau lawer yn gynharach eleni".

Ymateb San Steffan

Daeth ymateb gan Lywodraeth y DU ar ffurf datganiad nos Fercher, sy'n dweud: "Mae'n amlwg nad yw'r feirws yn parchu daearyddiaeth, ac mae unrhyw sbigynnau lleol yn gofyn i bob lefel o lywodraeth i weithio gyda'i gilydd.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gefnogi cymunedau a busnesau ac mae'n siomedig eu bod wedi dewis gweithredu ar ben eu hunain yn hytrach na chydweithio gyda rhannau eraill o'r DU.

"Mae'n bwysig fod pobl yn dilyn canllawiau lleol eu llywodraeth ddatganoledig. O'r cychwyn mae ein canllawiau ni wedi bod yn glir y dylai pobl o ardaloedd lle mae'r feirws yn uchel osgoi teithio i mewn nac allan o'r ardal honno."

Cefnogaeth o'r Alban

Yn gynharach ddydd Mercher fe wnaeth Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon groesawu galwadau Mr Drakeford am gyfyngu ar deithio o ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o'r feirws.

Dywedodd Ms Sturgeon y bydd hi hefyd yn ysgrifennu at Mr Johnson yn galw am drafodaeth ar frys er mwyn cael "cytundeb synhwyrol" rhwng pedair gwlad y DU.

Yn dilyn y cyhoeddiad fe wnaeth Ms Sturgeon drydar ei chefnogaeth o'r penderfyniad.

Dywedodd: "Rwy'n cefnogi Mark Drakeford yn llwyr ar hyn. Penderfyniadau am iechyd cyhoeddus yw'r rhain, a dim i wneud gyda dadleuon cyfansoddiadol neu wleidyddol.

"Bydd Llywodraeth yr Alban hefyd yn cymryd unrhyw gamau yr ydym yn ystyried yn angenrheidiol er mwyn rheoli Covid."

'O'r diwedd!'

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price - sydd wedi bod yn galw am gyflwyno mesurau o'r fath ers peth amser - drydar yn dweud: "O'r diwedd!"

"Mae wedi bod angen y cyhoeddiad yma ers tro ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn cymryd y weithred hon er mwyn diogelu pobl Cymru," meddai.

Ond dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod "obsesiwn" Llywodraeth Cymru gydag "atal Saeson yn mynd yn erbyn pob tystiolaeth".

Ychwanegodd yr arweinydd, Paul Davies ei bod yn "allweddol bod y Prif Weinidog yn egluro pam ei fod wedi ymddwyn yn y fath ffordd, a pha dystiolaeth mae e a'i weinidogion wedi'i weld sy'n cyfiawnhau'r gwaharddiad".