成人快手

Cwmn茂au rheilffyrdd st锚m Cymru'n wynebu trafferthion

  • Cyhoeddwyd
Injian stem hanesyddol, y Welsh Pony
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Injian stem hanesyddol, y Welsh Pony, a gafodd ei hadnewyddu gan gwmni Rheilffordd Ffestiniog dros y gaeaf

Mae cwmn茂au rheilffyrdd st锚m yn wynebu cyfnod ansicr dros yr wythnosau nesaf, gyda rhai'n dweud eu bod yn ymladd i oroesi.

Fel atyniadau twristaidd eraill mae'r rheilffyrdd bychan wedi bod ar gau yn ystod y cyfnod clo, ond bellach yn dechrau ailagor gyda chyfyngiadau glendid a chadw pellter mewn lle.

Mae Rheilffordd Llangollen yn ailagor ddydd Sadwrn.

Mae'r rheolwyr wedi prynu hylif diheintio dwylo arbennig i'r staff gan ei bod yn beryglus i ddefnyddio rhai sy'n cynnwys alcohol ar fwrdd injan st锚m.

Dywed y cwmni eu bod wedi gwario dros 拢10,000 ar wneud y rheilffordd yn ddiogel i ailagor, yn cynnwys offer PPE i wirfoddolwyr a staff.

Dywedodd Liz McGuinness, rheolwr cyffredinol y cwmni fod y cyfnod clo wedi eu gadael mewn sefyllfa ansicr.

'Sefyllfa beryglus o ran goroesi'

"Rydym wedi colli 拢600,000 dros y misoedd diwethaf," meddai.

"Mae'n debygol y byddwn yn colli 拢300,000 i 拢400,000 dros wyliau'r haf am ein bod yn ailddechrau ym mis Awst ac am ein bod yn gorfod cario llai o deithwyr.

"Ar hyn o bryd rydym yn dal ein tir, ond rydym yn cerdded ar wifren. Rydym mewn sefyllfa beryglus iawn os nad ydym yn cael digon o deithwyr ar y trenau.

"Yn ariannol, rydym mewn sefyllfa beryglus o ran goroesi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn defnyddio hen gerbydau sy'n gwneud hi'n bosib cadw teuluoedd ar wah芒n

Ym Mhorthmadog, mae Rheilffordd Ffestiniog wedi bod ar agor ers pythefnos.

Mae'r cwmni'n defnyddio ei gerbydau traddodiadol am bod rheiny wedi eu rhannu i unedau lle mae'n bosib cadw teuluoedd ar wah芒n i'w gilydd.

Mae gan bawb eu hadran a'u rhif eu hunain ar y tr锚n, ac maent yn gorfod dechrau pob siwrnai yn y brif orsaf. Mae'r cerbydau hefyd yn cael eu glanhau rhwng pob taith.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y cwmni, Paul Lewin: "Mae ymdrech fawr wedi mynd i mewn i baratoi'r trenau, a siarad efo Llywodraeth Cymru i wneud yn si诺r y gallwn gynnig gwasanaeth sy'n ddiogel.

"Mae'r dywediad 'tri gaeaf' wedi cael ei fathu gan y diwydiant twristiaeth, ac mae hynny'n berffaith gywir. Roeddem wedi bod drwy un gaeaf, roeddem wedi buddsoddi ein harian ar gyfer 2020, ac wedyn bu'n rhaid cau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paul Lewin, rheolwr cwmni Rheilffordd Ffestiniog

"Rydym wedi gorfod mynd drwy'r misoedd diwethaf heb unrhyw incwm.

"Fel arfer byddem yn gwerthu gwerth dros 拢3m o docynnau i'r trenau yn unig, heb s么n am arlwyo a gwerthiant yn y siopau. Felly rydym wedi colli miliynau o bunnoedd, yn llythrennol.

"Y sialens i ni r诺an ydi dod drwy weddill y tymor, a gallu cario mlaen i'r tymor ar 么l hwnnw. Mae'n rhaid i ni gael y busnes drwy'r gaeaf nesaf. Mi fydd ein llif ariannol yn cael ei effeithio am flynyddoedd lawer i ddod.

"Ond mae'n dda cael gwneud yr hyn y cafodd y rheilffordd ei hadeiladu i'w gwneud - cario teithwyr.

"Mi wnaethon ni dreulio'r gaeaf yn adnewyddu injan st锚m hanesyddol, sydd heb dynnu tr锚n ers 80 mlynedd, a dim ond r诺an yr ydym yn cael cyfle i'w defnyddio hi."