成人快手

27% o brofion canolfannau coronafeirws n么l mewn 24 awr

  • Cyhoeddwyd
Cardiff City Stadium testing centreFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyhoedd sydd yn defnyddio canolfannau profi gyrru-i-mewn fwyaf

Dim ond dros chwarter o brofion coronafeirws mewn canolfannau gyrru-i-mewn gafodd eu prosesu o fewn 24 awr wythnos diwethaf.

Dyma'r perfformiad gwaethaf o'r samplau gafodd eu cymryd yn yr 11 canolfan rhanbarthol ers i'r pandemig ddechrau.

Daeth 26.8% o'r 5,252 prawf yn 么l o fewn diwrnod gyda 86.3% yn cael eu prosesu o fewn dau ddiwrnod.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gosod mesurau yn eu lle i wella amseroedd prosesu.

Y cyhoedd sydd yn defnyddio'r canolfannau sy'n bodoli ar draws Cymru fwyaf.

'Angen symleiddio'r system'

Roedd y perfformiad mewn canolfannau profi cymuned, sydd yn blaenoriaethu gweithwyr iechyd, ychydig yn well, gyda 36.6% o'r tua 8,000 o brofion wedi eu prosesu o fewn 24 awr.

Ffynhonnell y llun, Jane Barlow

Ond yn gyffredinol dyw'r profion ddim yn cael eu prosesu mor gyflym 芒'r hyn y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dweud ei fod eisiau symleiddio a chyflymu'r system.

Yn 么l arbenigwyr sydd yn cynghori'r llywodraeth mae'r system olrhain orau yn ddibynnol ar ganlyniadau yn dod yn 么l o fewn 24 awr.

Fe wnaeth 87.9% o'r 4,500 o brofion mewn ysbytai gyrraedd y targed 24 awr.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod yr ystadegau yn dangos pa mor "annigonol" mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod i'r system brofi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn canolbwyntio ar amseroedd prosesu profion a'u bod wedi gosod "mesurau yn eu lle i wella amseroedd prosesu yn y labordai a thrwyddi draw yn y broses".