成人快手

Achub bachgen a rhiant o afon yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd Gwylwyr y Glannau yn ardal y chwilioFfynhonnell y llun, Matthew Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cerbyd Gwylwyr y Glannau yn ardal y chwilio am y plentyn

Mae bachgen 10 oed ac oedolyn wedi cael eu hachub ar 么l syrthio i afon yn Aberystwyth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Llanbadarn fore Mercher wedi adroddiadau fod plentyn yn y lle cyntaf, ac yna ei riant, yn Afon Rheidiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r ddau wedi eu darganfod ac maen nhw bellach allan o'r afon."

Cadarnhaodd Gwasanaeth T芒n ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin mai bachgen a menyw a gafodd eu hachub.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hofrennydd Gwylwyr y Glannau ar gaeau Blaendolau

Ysgrifennodd bad achub Aberystwyth ar eu cyfrif Twitter fod "dau fad wedi eu danfon bore 'ma i helpu Heddlu Dyfed-Powys a Gwylwyr y Glannau chwilio am blentyn coll y credir sydd wedi syrthio i'r afon".

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi eu galw tua 11:45 a bod "dau glaf yn cael eu hasesu ar hyn bryd gan ein criwiau".

Ychwanegodd eu bod wedi danfon un cerbyd ymateb cyflym ac un ambiwlans brys i'r ardal.

Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhan o'r chwilio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Emyr Jones fod y ddau yn "lwcus iawn"

Dywedodd rheolwr gorsaf d芒n Aberystwyth Emyr Jones nad oedd modd gweld y ddau o lan yr afon am gyfnod o achos y tirwedd.

O ganlyniad, roedd rhaid i ddau swyddog t芒n fynd i mewn i'r d诺r fel y "dewis olaf" yn yr ymdrech i achub y ddau.

Roedd y ddau oedd wedi eu hachub yn "lwcus iawn", gan eu bod i fyny at eu canol yn n诺r yr afon.