Adam Price yn ymddiheuro os yw wedi achosi loes
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn "hynod ddrwg" ganddo os yw'r iaith ddefnyddiodd e wrth alw ar Lywodraeth y DU i ddigolledu Cymru wedi peri loes i rai.
Mewn erthygl ar-lein ac mewn araith mewn cynhadledd roedd Adam Price wedi defnyddio'r gair Saesneg 'reparation' wrth alw am i'r DU dalu iawndal i Gymru wedi canrif o gael ei "gwthio i ddyfnderoedd tlodi."
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement 成人快手 Radio Wales dywedodd Mr Price ei fod yn credu bod Cymru wedi dioddef o dan drefn ymddiriedolaeth. Ond, ychwanegodd fod Cymru hefyd wedi chwarae ei rhan mewn caethwasiaeth a chreu trefedigaethau.
'Dim modd cymharu'
Dywedodd Mr Price ers yr erthygl ei fod wedi dysgu fod y gymuned ddu ac ethnig yn teimlo yn gryf y dylai'r term 'reparation' ond cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun iawndal o ganlyniad i fasnach caethwasiaeth ac ymerodraethau gwledydd y gorllewin.
"Rydym wedi bod yn ddioddefwr o ran y drefn drefedigaethol, ond rydym hefyd wedi chware rhan yn drefn, a dyw hynny heb gael digon o sylw yn y stori ry'n ni yn ei hadrodd i'n hunain," meddai wrth raglen Sunday Supplement.
Pan gafodd ei holi am ei ddefnydd o eiriau, ac a ddylai fod wedi cymharu ymerodraeth a chaethwasiaeth i brofiad Cymru, dywedodd nad oedd modd cymharu un math o ddioddef neu anghyfiawnder mewn un lle i le arall.
"Os ydw i wedi achosi loes oherwydd fy newis gwael o eiriau, mae'n wir ddrwg gen i am hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2020