成人快手

Price yn galw am 'ddigolledu Cymru am orffennol chwerw'

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Fe ddylai Cymru dderbyn iawndal gan Lywodraeth y DU yn 么l arweinydd Plaid Cymru - a hynny "ar 么l canrif o'r wlad yn cael ei gwthio i ddyfnderoedd tlodi".

Dywedodd Adam Price ei bod yn bryd i San Steffan dalu er mwyn gwneud cyfiawnder "am orffennol chwerw ac fel blaendaliad ar gyfer gwell dyfodol".

Gwnaeth yr alwad mewn erthygl ar-lein ar drothwy cynhadledd hydref ei blaid yn Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU nad oeddynt am ymateb i sylwadau Mr Price.

Ond fe wnaeth ffynhonnell o'r llywodraeth ddweud eu bod yn ceisio dyfalu "beth ddaw nesaf oddi wrth Price a'i d卯m".

Yn yr erthygl ar gyfer Nation.Cymru, dywed Mr Price: "Mae rheolaeth Prydain yng Nghymru wedi gadael creithiau dwfn.

"Na, o bosib nad oedd mor waedlyd, ond wedyn y gost ddynol o ystyried bywydau sydd wedi eu heffeithio, mae'n cael ei fesur mewn miliynau," meddai.

"Ar un adeg ni wnaeth yr haul fachlud ar ymerodraeth Prydain - ond o dan ddaear yn y maes glo fe wnaeth hi byth wawrio.

"Wedi ein hamddifadu o'n hetifeddiaeth fe'n gadawyd heb y gallu i godi ein hunain allan o rigol tlodi."

'Bwlch cyfoeth'

Fe wnaeth Mr Price ddisgrifio Cymru fel cenedl 21ain ganrif gyda phroblemau o'r 19eg ganrif.

"Mae angen rhywbeth ar raddfa cynllun Marshall ar 么l yr Ail Ryfel Byd, neu'r gronfa gafodd ei chreu wrth uno gorllewin a dwyrain Yr Almaen.

"Gymaint yw'r bwlch cyfoeth sydd yn bodoli yn yr hyn rydym yn ei alw yn Deyrnas Unedig," meddai.

"Mae unoliaethwyr yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi'r Undeb. Wel, nawr yw'r amser i brofi hynny."

Nid oedd Llywodraeth y DU am ymateb i'r sylwadau.

Mae cynhadledd Plaid Cymru yn dechrau fore Gwener.