³ÉÈË¿ìÊÖ

Miloedd mewn rali annibyniaeth ym Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Rali Methyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ydy'r drydedd rali o fewn ychydig fisoedd i'r trefnwyr sy'n ymgyrchu dros gael annibyniaeth i Gymru ei chynnal

Daeth miloedd o bobl ynghyd mewn rali dros annibyniaeth i Gymru ym Merthyr Tudful fore Sadwrn.

Dyma ydy'r drydedd rali o fewn ychydig fisoedd i'r trefnwyr ei chynnal, yn dilyn dwy rali debyg yng Nghaerdydd ym mis Mai ac yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf.

Yn ôl y trefnwyr mae mwy o bobl wedi dangos diddordeb yn mynychu'r digwyddiad y penwythnos hwn yn dilyn "llanast San Steffan dros yr wythnos ddiwethaf."

Roedd baneri gan bobl o Aberystwyth, Caernarfon, Wrecsam, Caerdydd, Pont-y-pŵl a Llandysul i'w gweld ymhlith y dorf.

Dechreuodd pobl gasglu ynghyd ar Sgwâr Penderyn ychydig cyn yr orymdaith am 12:00, ac fe orffennodd y rali yn ôl yr un fan.

Yn ôl y trefnwyr roedd dros 5,200 yn bresennol ar y diwrnod, ond nid yw'r ffigwr hwnnw wedi cael ei gadarnhau gan yr heddlu a oedd yn goruchwylio'r rali.

Ar y diwedd cafodd y dorf eu hannerch gan Eddie Butler a Neville Southall o'r byd chwaraeon, y bardd a'r dramodydd Patrick Jones, a'r cantorion Kizzy ac Eädyth Crawford.

Wrth esbonio pam ei fod wedi penderfynu annerch y dorf, dywedodd y sylwebydd chwaraeon Eddie Butler: "Dw i wedi bod yn aros am y deffroad yma ers amser maith - ar ôl ofni na fyddwn i'n ei weld yn ystod fy oes."

Roedd y trefnwyr, AUOB Cymru, yn gobeithio derbyn cefnogaeth gan filoedd o bobl, ac roedd bysus wedi cael eu trefnu o Langefni, Treffynnon, Machynlleth, ac Aberteifi.

Roedd yna adroddiadau hefyd bod trenau a oedd yn teithio o gyfeiriad Caerdydd tuag at Ferthyr Tudful yn orlawn gydol y bore.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Teleri Glyn Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Teleri Glyn Jones

"Mae'r gorymdeithiau yng Nghaerdydd a Chaernarfon wedi bod yn rhagorol", meddai Llywelyn ap Gwilym ar ran AUOB Cymru, sy'n fudiad annibynnol.

"Maent wedi denu nifer fawr o bobl, wedi creu cyffro ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y teledu ac mewn print, ac wedi helpu hyrwyddo'r achos dros annibyniaeth.

"Gyda'r llanast gwrth-ddemocrataidd sy'n digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd, mae'n bwysicach nag erioed i ni fel Cymry ddatgan ein barn, ac i bobl Cymru sylweddoli bod dewis arall hyfyw: annibyniaeth."

Dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd Yes Merthyr: "Mae'r holl lanast yn San Steffan yr wythnos diwethaf wedi profi mai dyna ydy'r arf bwysicaf yn yr ymgyrch recriwtio cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru o blaid datganoli ac mae'n credu yn gryf bod angen Undeb cryf sydd yn parchu ac yn adlewyrchu hunaniaeth wahanol pob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

"Rydyn ni'n cefnogi setliad datganoli cryf i Gymru o fewn Teyrnas Unedig gryf."