成人快手

Vaughan Gething: Ymateb chwyrn i sylwadau Adam Price

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adam Price: "Roedd gennym economi echdynnol gyda phwerau gwleidyddol canolog allanol."

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo arweinydd Plaid Cymru Adam Price o ddefnyddio terminoleg "warthus" a "bwriadol dramgwyddus" wrth gymharu Cymru i wladychiaeth a chaethwasiaeth.

Daw sylwadau'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyfweliad Mr Price i'r Sefydliad Materion Cymreig.

Yn y cyfweliad dywedodd Mr Price fod Plaid Cymru am gael "iawndal am ganrif o esgeulustod sydd wedi gadael gwlad o adnoddau cyfoethog yn dlawd a s芒l - lle mae bywydau wedi'u difetha a breuddwydion ddim wedi'u gwireddu".

Dywedodd: "Rwy'n teimlo'n gryf nad yw'n bosib deall y sefyllfa bresennol heb gydnabod y ffaith bod ein heconomi wedi bod yn un sy'n tynnu allan o'n gwlad a bod y pwerau gwleidyddol y tu allan i'n cenedl.

"I'r rhan fwyaf o bobl mae hynna'n debyg os nad yr un peth 芒'r profiad o wladychiaeth (colonialism)."

Wrth ymateb galwodd Mr Vaughan ar Mr Price i ymddiheuro.

Wrth siarad ar raglen frecwast 成人快手 Radio Wales dywedodd Mr Gething ei fod wedi'i synnu "bod [Mr Price] wedi defnyddio terminoleg lle mae e'n fwriadol yn cymharu profiad Cymru 芒 gwladychiaeth, a chyn hynny caethwasiaeth.

"Dyw hi ddim yn bosib cymharu profiad Cymru yn y 19 a'r 20fed ganrif 芒 chaethwasiaeth neu'r hiliaeth y mae Americanwyr Affricanaidd wedi'i dderbyn yn America."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething wedi galw ar Adam Price i ymddiheuro

Ychwanegodd Mr Vaughan bod gan Gymru ran uniongyrchol mewn hanes caethwasiaeth.

"Dyw hi ddim yn syndod fod llawer o'r cyfenwau Americanaidd Affricanaidd yn rhai Cymreig.

"Mae hynny oherwydd unwaith iddynt gael eu rhyddid fe gawson enwau perchnogion y gweision.

"Mae ceisio dweud bod profiad Cymru fel gwlad a'r Cymry fel pobl yn debyg i wladychiaeth neu gaethwasiaeth yn warthus.

Fe wnaeth Mr Gething hefyd siarad am ei fam a gafodd ei geni yng Ngogledd Rhodesia, a ddaeth yn ddiweddarach yn Zambia.

Ychwanegodd: "Doedd ei phrofiad hi a'i theulu o dyfu lan ddim yn debyg i brofiad Cymru yn y 19 a'r 20fed ganrif."

Mae Mr Gething wedi dweud bod sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn warthus ac mae wedi galw am ymddiheuriad.

'Tactegau pathetig'

Ond wfftio sylwadau Mr Gething a wnaeth Plaid Cymru. Dywedodd llefarydd: "Dyma dactegau pathetig i dynnu sylw gan y blaid Lafur, sydd wedi methu ar yr holl faterion sydd o dan eu grym [yng Nghymru].

"Dylai Llafur dreulio mwy o amser yn ceisio gwella'r sefylla y mae Cymru ynddi... Dim ond ymgais i guddio'u methiannau eu hunain yw hwn gyda honiadau disail a chwerthinllyd."

Ychwanegodd Mr Price: "O'dd Cymru yn goloni yn yr ystyr 'na oherwydd roedd grym gwleidyddol wedi lleoli tu allan i'n gwlad ac felly fe gollon ni ein cyfoeth trwy hynny.

"Mae'r goblygiadau hynny i'w weld yn y Gymru gyfoes heddiw."