成人快手

#BlackLivesMatter: Safbwynt Cymry ifanc

  • Cyhoeddwyd

Ers marwolaeth George Floyd ym Minneapolis, UDA ar 25 Mai, mae yna brotestiadau wedi cael eu cynnal ledled y byd yn erbyn anghyfiawnder a hiliaeth, a'r hashnod #BlackLivesMatter wedi bod yn flaenllaw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond sut mae pobl ifanc wedi cael eu heffeithio gan hyn?

Mae Katie a Zach yn efeilliaid sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd. Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r ddau am eu ymateb i'r digwyddiadau diweddar, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad,

Katie a Zach o Gaerdydd sy'n adlewyrchu ar ddigwyddiadau鈥檙 pythefnos diwethaf

Dim problem America yn unig

Zach - Dwi wedi clywed 'sai'n si诺r faint o bobl yn dweud 'dim problem ni yw e, dyw hiliaeth ddim yn bodoli yng Nghymru na'r Deyrnas Unedig, felly beth yw'r broblem?' Mae hynny'n dod fel sioc i mi, achos mae fe yn broblem - mae gwallau o fewn ein system plismona ni sydd angen cael eu newid.

Katie - Os chi ddim yn credu fod e'n broblem, chi ddim yn mynd i geisio trwsio'r broblem, neu wneud dim i'w wella fe. Ni angen addysgu pobl a dweud 'mae e yn broblem yng Nghymru ac mae angen i ni wneud rhywbeth amdano fe', oherwydd mae 'na ormod o hiliaeth yn bodoli yma.

Enghraifft yw dyn o'r enw Derek Bennett - o'dd e wedi cael ei ladd gan yr heddlu [yn 2004], ac oherwydd o'dd e ddim yn y cyfryngau, oedd neb yn gwybod amdano fe.

Zach - Ac mae gennych chi bethau fyddai pobl yn talu llai o sylw iddo hyd yn oed, fel lleiafrifoedd yn ofni mynd allan yn y nos, ofn cael eu stopio gan heddlu oherwydd lliw eu croen, ofn prynu ceir drud - mae e dal yn digwydd.

Falle dyw e ddim mor amlwg ag yn America, ond mae e dal yn broblem.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae protestiadau wedi cael eu cynnal ledled Cymru, fel yr un yma yng Nghasnewydd

Angen addysgu

Zach - Dwi'n credu fod angen edrych ar ein hunain fel cymunedau a gwlad, ac edrych nid yn unig beth allwn ni wneud, o ran atal hiliaeth yn ein gwlad ni, ond cymryd rhan mewn gwaredu hiliaeth ac anghyfiawnder ar draws y byd.

Rhywbeth sydd wir yn bwysig ydi addysg. Mae llawer o bobl yn gweld hiliaeth fel rhywbeth sydd ddim yn digwydd, oherwydd chi'n dysgu amdano mewn gwersi hanes - dyw e ddim yn cael ei ddysgu fod e'n digwydd nawr, ledled y byd.

Katie - Un peth sy wir yn mynd i helpu ydi i gynnal sgwrs, os ydi rhywun yn dweud rhywbeth sydd yn brifo teimladau rhywun neu sydd bach yn hiliol - i addysgu'r unigolyn. Oherwydd efallai dy'n nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n ddweud, a mae'n rili bwysig i addysgu nhw fel bod nhw ddim yn gwneud yr un camgymeriad eto.

Y plant sydd yn cael ei addysgu nawr, nhw yw heddlu y dyfodol, nhw yw athrawon y dyfodol - ac wrth eu addysgu nhw nawr, mae'n ein helpu ni i leihau neu i atal hiliaeth yn y dyfodol.

Ymgyrch #BlackLivesMatter

Katie - I'r bobl sy'n dweud All Lives Matter - ie, maen nhw, ond ar y foment mae yna ormod o bobl yn credu Black Lives don't matter as much.

Mae'r ffaith fod yr ymgyrch Black Lives Matter yn bodoli yn dweud gymaint - os oedden ni'n gyfartal, a ni i gyd o bwys, bydde ni ddim angen hwn, bydde ni ddim angen cael y sgwrs yma... Yn amlwg, mae yna rywbeth o'i le.

Fi wir yn obeithiol [nawr] oherwydd os chi'n edrych ar y newidiadau sydd wedi digwydd yn y bythefnos ddiwethaf... mae miloedd o bobl wedi bod yn ymladd i wella'r sefyllfa, i geisio'n helpu ni fel cymuned, ac mae gymaint o bobl wedi codi eu lleisiau. Mae 'na newidiadau wedi bod, a mae hynny jest 'di bod pythefnos.

Os ni'n cario 'mlaen i ymddwyn fel hwn a gadael i bobl wybod ni ddim yn mynd i sefyll am yr ymddygiad yma, dwi'n credu fod newidiadau mwy yn mynd i ddod ac yn parhau i ddod.pan ni wir yn codi ein lleisiau, a wir yn ymladd yn erbyn yr ymddygiad yma, ni yn gallu gwneud gwahaniaeth,

Zach - Mae'n drist i ddweud, ond do'n i ddim yn obeithiol iawn am newid anferth, oherwydd 'sai'n si诺r sawl gwaith dwi wedi gweld pobl yn rhoi stwff ar-lein 'bod hyn ddim yn iawn', ond tridiau wedyn mae wedi ei golli.

Ond wrth weld y gefnogaeth barhaus sydd wedi bod ers marwolaeth erchyll George Floyd, mae'n rhoi bach o obaith i fi falle bod ni wir wedi cael digon - a ni yn arbennig fel cenhedlaeth wedi cael digon ar yr anghyfiawnder yma.

Katie - Dwi'n credu fod e wir yn bwysig ei fod e'n rhywbeth i ymladd amdano bob dydd. Dwi'n credu nawr fod pobl wedi sylweddoli, pan ni wir yn codi ein lleisiau, a wir yn ymladd yn erbyn yr ymddygiad yma, ni yn gallu gwneud gwahaniaeth, a nawr fod pobl yn sylweddoli hynny, maen nhw'n llai tebygol o anwybyddu'r broblem.

Zach - Os fydd un person yn mynd off a dweud ''na i addysgu fy hun nawr, 'na i addysgu ffrind' - ni 'di ennill. Ni 'di cael un person i dyfu lan i fod yn berson gwell.

Hefyd o ddiddordeb: