成人快手

Gwisgo mwgwd yn 'rhesymol': Arwyddion o newid cyngor

  • Cyhoeddwyd
GweithiwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn annog gwisgo masgiau yn gyhoeddus

Mae gwisgo gorchudd dros eich wyneb i atal lledaeniad coronafeirws yn "rhesymol," yn 么l ffigwr blaenllaw yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Christopher Williams y "dylai 'na fod" effaith ar ledaeniad yr haint pe bai llawer o bobl yn gwisgo gorchudd mewn "amgylchiadau priodol".

Yn Lloegr bydd gorchuddio eich wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus o 15 Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw yn gwneud datganiad ar y mater ddechrau'r wythnos nesaf.

WHO yn newid ei safbwynt

Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach wedi newid y cyngor swyddogol yngl欧n 芒 gwisgo mygydau, gan ddweud y dylen nhw gael eu gwisgo yn gyhoeddus er mwyn atal lledaeniad Covid-19.

Cyn hyn roedd y corff wedi dadlau nad oedd digon o dystiolaeth i ddweud y dylai pobl iach orchuddio eu hwynebau.

Hyd yn hyn dydy'r Prif Weinidog Mark Drakeford ddim wedi dweud y dylai unrhyw un orchuddio eu hwynebau, gan ychwanegu mai "dewis personol" ydy hynny.

Mae cangen Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain eisiau i weinidogion newid y polisi yma, gan alw am wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus ble nad oes modd i bobl gadw pellter cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gorchuddio eich wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr o 15 Mehefin

Dywedodd Dr Williams ar 成人快手 Radio Wales fore Sadwrn: "Rwy'n meddwl yn gyffredinol o ran iechyd cyhoeddus bod egwyddor - os oes llawer o bobl yn gwneud yr un peth, hyn yn oed os mai effaith fechan mae hyn yn ei gael yn unigol, gallai gael effaith fawr ar y boblogaeth drwyddi draw.

"Rwy'n credu mai dyma'r meddylfryd o ran gorchuddio eich wyneb.

"Os oes 'na lawer o bobl yn eu defnyddio yn yr amgylchiadau priodol fe ddylai gael effaith ar y lledaeniad.

"Yn amlwg mae'n anodd mesur, a dyw'r dystiolaeth ddim yn 100%, ond mae'n ymddangos yn rhesymol i'w hychwanegu fel lefel ychwanegol o amddiffyniad, yn yr un ffordd ag y mae aros dau fetr i ffwrdd o rywun hefyd yn ffordd o atal y lledaeniad."

Ar Twitter fore Sadwrn dywedodd y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters bod pryder y gallai gwisgo masg "roi'r teimlad ffals o ddiogelwch."

Ychwanegodd y "gallan nhw annog ymddygiad mwy mentrus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylid gwisgo masgiau ble nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, a bod Llywodraeth Cymru "ar ei h么l hi" o ran eu canllawiau.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru annog pobl i orchuddio eu hwynebau.