Gohirio gemau haf t卯m rygbi Cymru yn Japan a Seland Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae taith t卯m rygbi Cymru i Japan a Seland Newydd yn yr haf wedi cael ei gohirio.
Cadarnhaodd corff llywodraethol y g锚m yn rhyngwladol, World Rugby, na fydd gemau'r haf yn cael eu cynnal oherwydd argyfwng coronafeirws.
Roedd Cymru i fod i wynebu Japan ar 27 Mehefin a Seland Newydd ar 4 a 11 Gorffennaf.
Mae teithiau haf Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon hefyd wedi cael eu gohirio.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod ail drefnu'r daith yn opsiwn.
'Awyddus iawn i chwarae'
"Mae'r gohiriad yn siom ond yn gwbl ddealladwy o dan yr amgylchiadau," meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.
"Roedden ni'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae yn Japan a Seland Newydd yn yr haf.
"Ar nodyn bersonol ro'n i'n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Seland Newydd gyda Chymru."
Mae cyhoeddiad World Rugby hefyd yn codi cwestiwn yngl欧n 芒 gemau rhyngwladol yr hydref - pan oedd Cymru'n disgwyl croesawu'r Crysau Duon, Ariannin, De Affrica a Fiji i Gaerdydd ym mis Tachwedd.
Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, yn gynharach yn yr wythnos eu bod yn awyddus iawn i chwarae gemau'r hydref, gyda'r posibilrwydd o'u cynnal heb dorfeydd.
"Dwi'n meddwl bod pob gwlad yn awyddus iawn i'w chwarae nhw," meddai.
"Dy'n ni ddim wedi cael unrhyw incwm i'r busnes ers mis Chwefror, ac nid yw'n mynd i edrych yn dda i'r dyfodol os ydym yn mynd trwy weddill y flwyddyn heb incwm.
"Rydym yn awyddus iawn i'w chwarae nhw, ac rydym hefyd yn cynllunio ar gyfer sefyllfa pe na fyddai'r gemau hyn yn cael eu chwarae."
Mae holl weithgareddau rygbi wedi eu hatal am y tro oherwydd y pandemig.
Ni chafodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ei chwblhau yn gynharach eleni - gyda g锚m olaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn Yr Alban wedi ei gohirio.
Mae'r Pro14, sy'n cynnwys rhanbarthau Cymru, yn edrych ar y posibilrwydd o ail-ddechrau'r tymor ddiwedd Awst gyda gemau yn cael eu cynnal ti 么l i ddrysau caeedig.
Ac mae trefnwyr cystadlaethau Ewropeaidd - Cwpan y Pencampwyr a'r Cwpan Her - yn gobeithio cynnal y rowndiau terfynol ym mis Hydref os bydd canllawiau iechyd cyhoeddus yn caniat谩u.
Ond bydd rygbi yn Seland Newydd yn ail-ddechrau ar 13 Mehefin wedi i'r llywodraeth yno israddio lefel rhybudd coronafeirws.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020