成人快手

Y myfyrwyr meddygol sy'n dewis helpu ar flaen y gad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dwi jyst yn falch o allu helpu a rhoi 'n么l i'r NHS'

Prin y byddai myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf - rhyw ychydig fisoedd yn 么l - wedi dychmygu'r her sy'n wynebu nifer ohonyn nhw ar hyn o bryd.

Mae Eli Wyatt, 23, yn un o'r 240 o fyfyrwyr meddygaeth blwyddyn olaf o Brifysgol Caerdydd sydd wedi dewis gwneud lleoliadau mewn ysbytai ledled Cymru.

Byddan nhw'n graddio'n gynnar, mewn ychydig o fisoedd, fel bod modd iddyn nhw ddechrau eu blwyddyn gyntaf fel meddygon iau a pharhau i helpu i fynd i'r afael 芒'r feirws ar y rheng flaen.

Dewisodd Eli wneud lleoliad yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.

Mae hi wedi symud i ffwrdd o'i theulu yn Ynysgynwraidd, Sir Fynwy ac mae hi bellach yn byw ar safle'r ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael eu talu ond mae agwedd wirfoddol i leoliadau

Dywedodd Eli y bu rhai diwrnodau "digalon" wrth drin cleifion nad oedd modd gwneud dim mwy ar eu cyfer.

"Mae'n beth anodd iawn i bobl fynd drwyddo yn enwedig yn yr amgylchedd yma achos lot o'r amser maen nhw'n mynd drwyddo fo ar eu pennau eu hunain heb eu teuluoedd."

Ond dywedodd fod y profiad wedi atgyfnerthu ei chariad at feddygaeth a'i bwriad i fod yn rhan o'r GIG.

"Dwi isio helpu bob tro - dwi'n teimlo'n lot gwell bod yma r诺an nag o'n i cyn dod," meddai.

"Mae o 'di 'neud fi fod isio 'neud meddygaeth fwy - a do'n i ddim yn meddwl bod hynny'n bosib."

Help ar gyfer yr 'ail don'

Dywedodd Dr Rhian Goodfellow, sy'n rhedeg y rhaglen meddygaeth israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, ei bod yn "hynod falch [o'r] ffordd y gwnaethon nhw i gyd gynnig helpu mewn ffordd mor anhunanol pan nad oedd pethau'n mynd yn iawn".

Mae 800 o fyfyrwyr eraill o bob blwyddyn gr诺p yn Ysgol Feddygol y brifysgol wedi ymuno 芒 banc gwirfoddolwyr, sy'n golygu bod modd galw arnyn nhw os oes ail don o'r feirws.

Dywedodd Dr Goodfellow fod hyn yn bwysig gan y byddai angen seibiant ar fyfyrwyr y flwyddyn olaf sy'n gweithio ar hyn o bryd.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i fyfyrwyr hefyd ddod i arfer 芒 gweld mwy o gleifion yn marw o ganlyniad i'r feirws.

"Mae myfyrwyr yn gweld cymaint o bobl yn marw, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb... mae'n rhywbeth anodd iawn ei weld," meddai.

"Hyd yn oed i weithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd lawer, mae'n rhywbeth sy'n anodd iawn i ni i gyd."