成人快手

Unedau gofal critigol Cymru eisoes yn 45% llawn

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod cynlluniau i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol

Mae unedau gofal critigol Cymru'n 45% llawn ar hyn o bryd, yn 么l y Gweinidog Iechyd.

Wrth ddiweddaru aelodau'r Cynulliad ar lawr y Senedd, dywedodd Vaughan Gething bod lle i gredu bod 15% o'r cleifion聽yn dioddef gyda coronafeirws.

Galwodd hefyd ar bobl i ofalu "am eu hunain ac am ei gilydd".

Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod un person arall wedi marw o'r feirws yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf.

17 wedi marw

Mae 60 o achosion newydd wedi'u cadarnhau, gan ddod 芒'r cyfanswm i 478 yma, er bod y corff yn cydnabod bod y nifer sydd 芒'r feirws yn uwch mewn gwirionedd.

Mae'r farwolaeth ddiweddaraf yn golygu bod 17 o bobl wedi marw o Covid-19 yng Nghymru.

Fe wnaeth Mr Gething hefyd gyhoeddi manylion y gwaith sy'n digwydd i gynyddu'r adnoddau gofal sydd ar gael.

Eglurodd bod聽cynlluniau i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol o 150 i dros 300 a bod Llywodraeth Cymru'n prynu 600 yn rhagor o wyntiedyddion (ventilators).

'Sefyllfa ddigynsail'

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth wedi cysylltu 芒 gweithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith.

Bydd cyfle i fyfyrwyr meddygol sydd yn eu blwyddyn olaf i weithio dros dro am聽gyflog llawn hefyd, meddai.聽

"Mae'r sefyllfa ry'n ni ei wynebu'n ddigynsail," meddai Mr Gething.

"Bydd yr wythnosau nesa'n fwy heriol nag unrhyw beth ry'n ni wedi ei weld mewn 20 mlynedd o Lywodraeth Cymru.

"Os gwelwch yn dda gofalwch am eich hunain ac am eich gilydd."