成人快手

Cynllun mewnfudo'n 'amlygu diffyg dealltwriaeth'

  • Cyhoeddwyd
Staff gweiniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweini mewn bwytai a rhai swyddi amaethyddol yn y categori sgiliau isel dan gynigion Llywodraeth y DU

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU mewn cysylltiad 芒 mewnfudo ar 么l Brexit yn amlygu "diffyg dealltwriaeth brawychus ynghylch anghenion economi Cymru," yn 么l Llywodraeth Cymru.

Dan gynlluniau a gafodd eu datgelu gan yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, byddai gweithwyr 芒 "sgiliau isel" ddim yn cael fisas i weithio yn y DU.

Mae gweinidogion yn San Steffan yn annog cyflogwyr i newid o ddibynnu ar "lafur rhad" o Ewrop a buddsoddi mewn cadw staff a datblygu technoleg awtomeiddio.

Dywed y Swyddfa Cartref y bydd dinasyddion o'r UE ac o weddill y byd yn cael eu trin yn gyfartal wedi 31 Rhagfyr pan ddaw'r rhyddid i weithio yn unrhyw un o wledydd yr undeb i ben.

Ond mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylai'r system fewnfudo helpu ein heconomi a'n pobl, nid cyfyngu ar eu potensial.

"Mae'r cynigion yma'n amlygu diffyg dealltwriaeth brawychus ynghylch anghenion economi Cymru, a bydden nhw'n niweidio ffyniant yma yn ddiangen.

Ychwanegodd: "Mae yna amrywiaeth o weithwyr sy'n cyfrannu i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n busnesau, sy'n debygol o weld bod hi'n fwy anodd a llai deniadol i ddod i Gymru dan y cynigion yma."