³ÉÈË¿ìÊÖ

Eiry Thomas: 'Gweld y byd trwy lygaid rhywun arall'

  • Cyhoeddwyd
Eiry ThomasFfynhonnell y llun, Ruth Crafer

Wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau a chael ei henwebu am y pumed tro eleni, am ei rhan yn Enid a Lucy, mae Eiry Thomas yn wyneb cyfarwydd iawn ar y sgrin.

Ar hyn o bryd, mae'n actio yn y ddrama The Accident ar Channel 4, sydd wedi ei lleoli yng nghymoedd y de, gyda Sarah Lancashire, Joanna Scanlan a Mark Lewis Jones ymhlith yr actorion.

Bu'n siarad â Cymru Fyw am ei bywyd fel actor, yr her o chwarae gwahanol rannau a'r diffyg gwaith actio i ferched wrth fynd yn hŷn:

"Doeddwn i ddim yn 'nabod Sarah a Joanna o'r blaen felly roedd yn rhaid i ni weithio ar y cemeg rhyngddon ni, i bobl gredu ein bod ni'n ffrindiau," meddai Eiry Thomas, am actio ochr yn ochr â Sarah Lancashire a Joanna Scanlan, yn portreadu tair ffrind o'r cymoedd sy'n wynebu trasiedi, ar ôl damwain yn y pentref sy'n effeithio ar eu cyfeillgarwch.

Ffynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Angela (Joanna Scanlan), Polly (Sarah Lancashire) a Greta (Eiry Thomas)

"Efo actorion, mae 'na rhyw fath o pact, mae'n rhaid i ti fod yn agored, cyfeillgar a derbyngar pan ti'n cwrdd i ddod i adnabod eich gilydd yn gyflym.

"Mae'r dair ohonon ni yn ein 50au erbyn hyn, ac erbyn yr oedran 'ma byddet ti'n meddwl ein bod ni wedi ffeindio popeth mas, ond oedd e'n neis weithie i gyrraedd y set a gweld eu bod nhw hefyd, er eu bod nhw on top of their game, gyda'u ffaeleddau bach, yn ffeindio fe'n anodd i gofio rhywbeth neu cael rhywbeth i weithio.

"Mi oedd gweld hynny yn Sarah a Joanna yn agoriad llygad. Fe wnes i ddysgu cymaint yn eu gwylio nhw, maen nhw'n actorion mor wych."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Eiry yn chwarae rhan Enid yn Enid a Lucy, gyda'r actores Mabli Jên Eustace

Mae Eiry Thomas wedi portreadu cymeriadau amrywiol iawn dros y blynyddoedd; Eirlys, rheolwr busneslyd y feddygfa yn Teulu, Catrin, Aelod o'r Cynulliad yn Byw Celwydd, a DI Susan Williams yn Un Bore Mercher, ond i enwi rhai. Mae hefyd wedi actio mewn cyfresi fel Stella, Torchwood ac Y Gwyll/Hinterland.

A dyna'r apêl iddi fel actor meddai, y creadigrwydd i gael defnyddio ei dychymyg a'r cyfle i fynd o dan groen pobl wahanol a meddwl sut maen nhw'n gweld y byd.

"Dwi'n rhywun sydd angen defnyddio fy nychymyg neu dwi'n mynd yn bored. Fi'n lico chware' pobl sy'n cracio, neu'n 'neud pethau od, achos ti'n gallu defnyddio dychymyg i chware rhannau fel 'na.

"Rhywbeth dwi'n trio 'neud bob tro ydy newid fy hunan, ond cadw'r gwirionedd. Mae rhaid i ti gadw gwirionedd y person yna, ond mae'r person ti'n chwarae yn wahanol i ti, er bod 'na agweddau ohona' i yn y cymeriadau. Dwi'n hoffi ymestyn yr agweddau yna a gweld y byd trwy lygaid rhywun arall.

"Dwi'n lico'r sialens yna, dwi ddim yn dweud mod i'n llwyddo bob tro, ond dwi'n licio meddwl, pwy yw'r person yma [dwi'n chwarae]? Sut ma' nhw'n gweld y byd a sut ma' nhw'n meddwl am y byd?"

Ffynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Eiry Thomas yn chwarae rhan Greta yn The Accident ar Channel 4

Llai o sgriptiau i ferched hÅ·n

Ers iddi droi yn 50 oed, mae Eiry Thomas yn gweld y gwahaniaeth yn y math o rannau actio sydd i ferched hÅ·n ar y sgrin, felly roedd gweithio fel rhan o driawd o ferched yn eu 50au yn The Accident yn brofiad arbennig.

"Roedd yn lyfli cyd-weithio gyda dwy arall yn yr un braced oedran â fi, achos fel arfer dim ond un ohonoch chi sydd, y matriarch. Os ti yr oedran 'ma, ti ddim yn cael ffrindiau [yn y sgript].

"Mae'n anodd, wrth i fi fynd yn hŷn, dwi'n gweld e gyda fy llygaid fy hunan. Does dim lot o rannau. Mae lot o rannau i ferched yn eu 20au, 30au. Falle dwy neu dair rhan mewn sgript i ferched yn eu 40au… a wedyn bydd un rhan i'r rhai yn eu 50au neu 60au.

"Dwi wedi 'neud lot o theatr yn y Gymraeg a'r Saesneg a dwi'n 'neud lot o ddramâu radio, felly dwi wedi llwyddo i 'neud rhywbeth trwy'r amser, oherwydd y ddwy iaith.

"Dwi'n gobeithio bod gwaith yn mynd i ddod yn y dyfodol, ond dwi hefyd yn poeni amdano fe."

Ffynhonnell y llun, Eiry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Eiry Thomas a'i gŵr, yr actor ac archeolegydd Iestyn Jones

Tyfu fyny ar aelwyd di-Gymraeg

Mae Eiry Thomas yn amau a fyddai hi'n dal i fod yn actio o gwbwl, petai ei rhieni di-Gymraeg heb ei hanfon i ysgol feithrin Gymraeg, ac yna i ysgolion Bryntaf a Glantaf yng Nghaerdydd. Mae'n dal i fyw yn y brifddinas, ac yn briod â'r actor a'r archeolegydd, Iestyn Jones, ac yn fam i ddau.

"Dwi ddim yn gwybod a fydden i wedi cadw mlaen i fod yn actor os nad oeddwn i'n siarad Cymraeg. Fe es i goleg Rose Bruford yn Sidcup i wneud gradd mewn Drama, ac fe fydden i wedi aros yn Llundain, a fydden i wedi mynd mor bored gyda diweithdra ac angen rhyw fath o greadigrwydd. Fydden i siŵr o fod wedi troi at ddysgu," meddai.

Un elfen o waith actor sydd wedi newid dros y blynyddoedd, yw ymateb y gynulleidfa i'w gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n gallu bod yn rhwystredig ac yn bersonol, meddai.

"Blynydde nôl, bydde ti'n gallu 'neud rhywbeth ar y teledu, bydde pobl yn gwylio fe yn eu stafelloedd ffrynt, siarad amdano fe a bydde ti ddim yn clywed amdano fe.

"Ond nawr ar social media, ti'n cael negeseuon personol, yn gweud sut ddyle ti wneud y rhan. Mae'n gallu bod yn horrible, ond mae'n rhaid i ti ei anwybyddu fe, a pheidio gadael iddo fe fwrw dy hyder di. Dwi ddim yn mynd i wrando ar y pethau da chwaith.

"Fel actor, ti'n cymryd risg, ti'n twlu dy hunan i mewn a gobeithio bydd e'n llwyddiant. Weithie bydd pobl ddim yn hoffi fe, ond ti'n gorfod 'neud e.

"Dwi'n gweld actio fel darllen nofel dda, lle ti'n mynd yn immersed yn y stori, a ti'n gallu anghofio popeth a mynd i fyd arall. Dwi'n licio pan ma' hwnna'n digwydd."

Hefyd o ddiddordeb: