成人快手

Boduan, Ll欧n i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2021

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 2019 ei chynnal yn Llanrwst

Boduan ym Mhen Ll欧n fydd yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2021.

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld ag ardal Ll欧n ac Eifionydd ers 1987, pan gynhaliwyd yr 诺yl ym Mhorthmadog.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Gyda phopeth nawr mewn lle, braf yw cael rhannu'r newyddion mai Boduan, rhwng Nefyn a Phwllheli fydd ein cartref ym mis Awst 2021."

Bydd cyfarfod cyhoeddus i baratoi ar gyfer y Brifwyl yn cymryd lle ym Mhwllheli ar nos Fawrth 12 Tachwedd.

Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod mai'r bwriad ydy i'r gymuned fod yn rhan ganolog o'r gwaith o drefnu'r 诺yl, fydd yn cael ei chynnal rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.

'Edrych ar amryw o diroedd'

Ychwanegodd Ms Moses ar raglen Post Cyntaf 成人快手 Radio Cymru fore Mawrth: "Mi fuon ni'n edrych ar amryw o diroedd - mi oedd 'na 27 ar y rhestr hir, a drodd yn saith, a drodd yn bedwar ar y rhestr fer.

"Mae gennym ni restr o ran beth sydd ei angen - mae creu Eisteddfod fel jig-so, ac mae'n rhaid bod gennych chi rai pethau, ac wedyn mae rhai pethau fyddai o fudd.

"Wrth i ni fynd trwy'r rhestr yna, fe ddoth Boduan i'r fei."

Ychwanegodd bod yr Eisteddfod wedi ystyried cynnal g诺yl di-faes yng Nghaernarfon ond ei bod wedi dod yn amlwg nad oedd modd "gwireddu g诺yl wahanol heb fod gennym ni ariannu gwahanol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Betsan Moses ei bod hi'n edrych ymlaen at "18 mis hapus yn gweithio ar draws y dalgylch"

Bwriad y cyfarfod cyhoeddus yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth a gwirfoddoli i ddod yn rhan o'r prosiect.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn Ysgol Glan y M么r, Pwllheli ar 12 Tachwedd am 19:00.

Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus bydd y gwaith o ddewis cystadlaethau ar gyfer y Rhestr Testunau ynghyd 芒'r prosiect cymunedol yn cychwyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dyfrig Siencyn bod pobl y sir yn "edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Eisteddfod"

Croesawodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn y newyddion: "Rydym yn hynod falch o allu croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Wynedd yn 2021.

"Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd miloedd o bobl o bell ac agos yn tyrru yno i gystadlu neu i fwynhau bwrlwm unigryw y Maes.

"Ein bwriad fydd dathlu'r diwylliant arbennig yma a phopeth sydd gennym i fod yn falch ohono yma yng Ngwynedd."

Bydd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith, ynghyd 芒 Chadeirydd y Gronfa Leol yn cau ddydd Gwener 15 Tachwedd.

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod fod yng ngogledd Gwynedd oedd yn 2005, ym Mharc y Faenol ger Bangor.

Mae rhagor o wybodaeth am Brifwyl Ll欧n ac Eifionydd ar wefan