成人快手

Ymchwilwyr o Gymru'n arwain wrth greu prawf sepsis

  • Cyhoeddwyd
Edie Madoc-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Edie Madoc-Jones sepsis yn syth ar 么l cael ei geni'n gynnar

Gallai prawf newydd ar gyfer sepsis gael ei ddatblygu yng Nghymru wrth i d卯m o ymchwilwyr arwain y ffordd yn y maes.

Gobaith ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ydy "darllen arwyddion yn y gwaed" o fewn y system imiwnedd i weld os ydy claf yn debygol o gael sepsis.

Mae tua 12,000 o gleifion yn datblygu sepsis yng Nghymru bob blwyddyn, gyda bron i 3,000 yn marw ohono.

Ar hyn o bryd mae adnabod y symptomau yn heriol, ac mae'r prawf yn un araf ac anghyson.

Symptomau'n annelwig

Mae sepsis yn gyflwr peryglus sy'n datblygu wrth i system imiwnedd y corff or-ymateb i haint ac ymosod ar organau person.

Gall roi diagnosis o sepsis fod yn heriol iawn gan fod y symptomau yn annelwig.

Ar hyn o bryd, mae'r prawf yn anghyson gydag 85% yn rhoi canlyniad anghywir.

Mae hefyd yn broses araf sy'n cymryd hyd at 48 awr, ond y gobaith ydy y bydd prawf newydd yn cymryd "munudau i oriau".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen mwy o waith ac amser cyn gallu cadarnhau a ydy'r prawf yn effeithlon ac ymarferol, medd Yr Athro Peter Ghazal

Dywedodd yr Athro Peter Ghazal o Brifysgol Caerdydd: "Os nad ydych chi'n cadarnhau bod gan glaf sepsis, mi allai bywyd gael ei golli o fewn oriau, felly mae diagnosis cynnar a gwrthfiotigau priodol yn gwella cyfle claf i fyw yn aruthrol."

Gobaith y t卯m ydy datblygu prawf sy'n gyflymach: "Yr hyn ry' ni wedi ei wneud yw gweld os allwn ni ddarllen arwyddion yn y gwaed sy'n dod o sgyrsiau o fewn y system imiwnedd, a hynny i weld os yw claf yn debygol o ddatblygu sepsis."

Gyda nawdd gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, mae Project Sepsis yn caniat谩u i'r ymchwilwyr "drosglwyddo'r wybodaeth a'i defnyddio yn yr ysbyty er mwyn arbed bywydau".

'Profiad erchyll'

Disgrifiad,

'Roedd Edie'n lwcus - nid pawb sydd yn'

Profodd David Madoc-Jones y boen o aros am ganlyniadau profion pan gafodd ei ferch Edie, oedd wedi ei geni 17 wythnos yn gynnar, ei tharo 芒 sepsis.

Roedd Edie yn 1 pwys a 4 owns, ychydig dros hanner cilogram, pan gafodd ei geni, ac yn fregus iawn.

Dywedodd Mr Madoc-Jones bod "cyfnod horrible o aros i weld ac wrth gwrs mae'r haint yn gallu gwaethygu yn ystod y cyfnod o 48 awr".

"Mae'n brofiad erchyll oherwydd dy' nhw ddim yn sicr beth yw'r broblem felly mae'r feddyginiaeth yn gyffredinol yn hytrach nag yn benodol."

Mae rhwng 30% a 40% o fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar yn marw o sepsis, ond dwy flynedd a hanner yn ddiweddarach mae Edie yn ferch fach iach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae diagnosis araf yn gallu arwain at drin claf yn ormodol gyda gwrthfiotigau, medd Dr Jen Davies

Problem gyson sy'n datblygu yn sgil y diagnosis araf yw bod meddygon yn aml yn trin y claf yn ormodol gyda gwrthfiotigau.

Mae Dr Jen Davies yn gweithio yn adran famolaeth Ysbyty Casnewydd: "O ddydd i ddydd, dwi'n gweld y sialens o wybod beth yw'r diagnosis.

"Felly ni'n dueddol o or-drin y mamau, a'r babis hefyd, achos bod perygl ein bod ni'n mynd i golli rhywbeth.

"Yn arbennig gan ein bod ni'n gwybod fod sepsis yn rhywbeth sy'n gallu bygwth bywyd.

"Mae'n anodd ac wedyn mae'r mamau yma ar yr antibiotics am amser hir."

Pum mlynedd o ddatblygu

Mae gan yr Athro Ghazal, arweinydd Project Sepsis, falchder bod y cynllun wedi ei ddatblygu yng Nghymru ac yn uno gwyddonwyr a meddygon sy'n arbenigo mewn meysydd amrywiol.

Dywedodd y gall gymryd "o leiaf tair i bedair blynedd i adeiladu teclyn fydd yn cael ei ddefnyddio mewn labordy neu wrth ochr gwely er mwyn cynnal y prawf".

"Felly ry' ni'n edrych at ryw bum mlynedd cyn y bydd yna brawf fydd yn cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn."