Dirywiad 'sylweddol' yn nifer gwylwyr S4C y llynedd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth llai o ddram芒u a phrinder digwyddiadau chwaraeon poblogaidd achosi dirywiad "sylweddol" yn nifer gwylwyr teledu S4C y llynedd, yn 么l adroddiad blynyddol y darlledwr.
Roedd gostyngiad o 14% yng nghynulleidfa wythnosol y sianel yng Nghymru (314,000 ar gyfartaledd) tra bod y gynulleidfa dros rannau eraill o'r DU wedi disgyn 4%.
Ond mae'r ffigyrau, sy'n cyfeirio at y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2019, yn dangos cynnydd yn nifer y gwylwyr ar-lein, gyda 8.6 miliwn o sesiynau gwylio ar S4C Clic a 成人快手 iPlayer.
Dywedodd cadeirydd S4C, Huw Jones, fod y gostyngiad yn nifer y gwylwyr teledu yn "siomedig" ond bu'n canmol ymdrechion i gyrraedd cynulleidfaoedd iau ar-lein.
Ychwanegodd Mr Jones fod y gostyngiad yn y ffigurau ledled y DU yn unol 芒 chynulleidfaoedd sy'n gostwng ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.
"Mae'r gostyngiad sylweddol o 14% yng Nghymru yn deillio o nifer o ffactorau ac wedi blwyddyn o gynnydd trawiadol yn 2017-18, rhaid cyfaddef ei fod yn siomedig," meddai.
Cafodd cynulleidfa'r sianel ei tharo gan lai o gyfresi drama, llai o raglenni chwaraeon poblogaidd a chystadleuaeth "ffyrnig" gan sianeli a llwyfannau eraill fel Netflix.
Yn y flwyddyn flaenorol, roedd cynulleidfaoedd chwaraeon wedi dilyn taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017 ac ymdrechion y t卯m p锚l-droed i gyrraedd Cwpan y Byd. Mae tywydd ffafriol yr haf yn 2018 hefyd yn cael ei feio am y gostyngiad yn nifer y gwylwyr.
Dywedodd Mr Jones fod y sianel wedi trio cynyddu ei phoblogrwydd ymhlith cynulleidfaoedd iau, ond nad oedd hyn bob amser wedi llwyddo.
Ysgrifennodd: "Mae tuedd gwylwyr iau i droi at gyfryngau eraill, a throi i ffwrdd o'r teledu, yn bryder i S4C fel i ddarlledwyr cyhoeddus eraill.
"Ac efallai, ym misoedd cynta'r flwyddyn, fod ein hymdrechion i apelio at gynulleidfa iau, trwy arbrofi gyda syniadau a fformatau newydd, heb lwyddo'n ddigonol, ac ar yr un pryd wedi dieithrio carfan o wylwyr mwy traddodiadol."
'Her anferthol'
Mae denu cynulleidfa iau heb golli gafael ar y gwylwyr craidd yn "her anferthol" i ddarlledwyr, yn 么l Mr Jones.
Ond nododd bod gwasanaeth ar-lein Hansh a rhaglenni S4C sydd wedi'u hanelu yn benodol at blant a phobl ifanc yn parhau i fod yn boblogaidd.
Datblygwyd Hansh i fod yn sianel ar-lein sy'n cynnig adloniant, rhaglenni ffeithiol a newyddion. Cafodd bron i 7 miliwn o sesiynau gwylio y llynedd, gyda'r rhan fwyaf o wylwyr rhwng 16 a 34 oed.
Ysgrifennodd y prif weithredwr Owen Evans yn yr adroddiad mai strategaeth hirdymor S4C oedd "troi S4C o fod yn ddarlledwr llinol i fod yn gyflenwr aml-blatfform".
"Wrth neud hyn rydym yn ymateb i batrymau gwylio sy'n newid o'n cwmpas a hefyd yn meithrin partneriaethau newydd a chyffrous, gan sicrhau fod isadeiledd cryf gan y sianel i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018