成人快手

Maes B: 'Ton newydd o artistiaid yn dod i'r brig'

  • Cyhoeddwyd
Mellt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y band o Aberystwyth, Mellt, fydd yn cloi yr 诺yl ar y nos Sadwrn

Mae'r artistiaid sydd yn chwarae ym Maes B eleni yn adlewyrchu'r trawsnewidiad sydd wedi bod yn y s卯n gerddorol yng Nghymru, yn 么l un o drefnwyr yr 诺yl, Guto Brychan.

Cafodd artistiaid Maes B - sy'n rhan o ddigwyddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy - .

Ymhlith y rhai fydd yn ymddangos yn ystod yr wythnos mae Mellt, Gwilym, Y Cledrau a Candelas.

Dywedodd Mr Brychan wrth Cymru Fyw bod yna "deimlad gwahanol i'r 诺yl eleni" a'i bod yn gyfle i nifer o artistiaid brofi eu hunain ar un o brif lwyfannau cerddoriaeth Cymraeg.

Bydd yr 诺yl yn cael ei chynnal dros bedair noson rhwng 7 - 10 Awst, gyda Mellt yn cloi'r cyfan ar y nos Sadwrn.

Y gr诺p o Aberystwyth enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018 am eu halbwm 'Mae'n Haws Pan ti'n Ifanc'.

Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Gwilym i'r brig mewn pum categori yng Ngwobrau'r Selar eleni

Bydd tri o'r pedwar band sy'n cloi nosweithiau'r 诺yl yn gwneud hynny am y tro cyntaf eleni, ac yn 么l Mr Brychan mae hyn yn ymateb i'r newid clir sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Bob blwyddyn ry'n ni'n ceisio adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y s卯n , ond dwi'n meddwl bod yna drawsnewidiad wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf sy'n cyfrannu at deimlad gwahanol i'r 诺yl eleni.

"Mae'r ffaith bod artistiaid blaenllaw fel Yws Gwynedd a S诺nami, sydd wedi bod yn headlinio nosweithiau am rai blynyddoedd, bellach wedi stopio, yn rhoi cyfle i don newydd o artistiaid ifanc i ddod i'r brig.

"Roedden ni eisiau rhoi cyfle i fandiau mwy newydd i brofi eu hunain ar un o brif lwyfannau cerddoriaeth Cymraeg, ond mae pob un o'r artistiaid hynny yn haeddu eu lle."

'Ymddiried mewn bandiau ifanc'

Dywedodd Ifan Pritchard, prif leisydd y band Gwilym, sy'n cloi'r perfformio ar y nos Wener, bod y lein-yp yn brawf bod trefnwyr gwyliau yng Nghymru yn fodlon ymddiried mewn bandiau ifanc.

"'Da ni wedi bod yn mynd i Maes B ers blynyddoedd i wylio bandiau fel Yws Gwynedd a Candelas ac mae meddwl bo' ni yn headlinio noson dwy flynedd ar 么l i ni ddechra' yn anhygoel," meddai.

"Mae'n brawf bod trefnwyr gigs yng Nghymru yn fodlon rhoi cyfle i fandiau ifanc ac yn fodlon ymddiried ynon ni i arwain nosweithiau fel hyn.

"Mae'r ffaith bod cymaint o fandiau ifanc o gwmpas ar hyn o bryd yn beth gwych, does dim ymdeimlad o us and them o gwbl a dwi'n teimlo bod y lein-yp yn adlewyrchu'r holl wahanol genres a'r gwahanol bersonoliaethau o fewn y s卯n ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Mr Brychan fod trefnwyr yr 诺yl yn ymwybodol o'r galw i gynnwys mwy o berfformwyr benywaidd fel rhan o'r 诺yl.

Mae yna gynrychiolaeth fenywaidd ymhob noson o'r 诺yl eleni, yn ogystal 芒 phob haen o'r lein-yp.

"Mae'r elfen yna yn bendant yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried, nid yn unig wrth drefnu Maes B ond wrth drefnu pob un o lwyfannau'r Eisteddfod.

"Mae angen sicrhau bod yr artistiaid yn addas ar gyfer y llwyfan yn ogystal 芒 sicrhau bod cyfle teg i bawb."

Trefn yr artistiaid yn llawn:

Nos Fercher - CANDELAS, Alffa, Chroma, Y Sybs.

Nos Iau - Y CLEDRAU, Fleur de Lys, Omaloma, Lewys.

Nos Wener - GWILYM, 3 Hwr Doeth, Papur Wal, Serol Serol.

Nos Sadwrn - MELLT, Adwaith, Los Blancos, Wigwam.