Tafwyl yn cyhoeddi artistiaid yr 诺yl yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r artistiaid fydd yn perfformio yng ng诺yl Tafwyl ym mis Mehefin wedi cael eu cyhoeddi.
Ymhlith y rhai fydd yn ymddangos yn yr 诺yl mae Band Pres Llareggub, Caryl Parry Jones, Candelas a Gwenno.
Bydd noson ychwanegol o gerddoriaeth am y tro cyntaf eleni gyda pherfformiadau ar y brif lwyfan nawr yn ymestyn at y nos Wener.
Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar 21, 22 a 23 Mehefin.
Bydd 50 o artistiaid yn perfformio ar hyd pedair llwyfan yn ystod y penwythnos.
Mae Yr Eira, Gwilym, Mellt a Chroma ymysg y rhai fydd yn ymddangos ar y prif lwyfan, gyda HMS Morris, Alffa, Siddi ac I Fight Lions yn chwarae ar lwyfan y 'Sgubor.
Bandiau ifanc yn bennaf fydd ar lwyfan Yurt T, gan gynnwys Sybs, Lewys a'r Cledrau; yna bandiau pres, jazz a charnifal Bass 12, 3D Bass a RT Dixieband fydd yn denu sylw ar Lwyfan y Porth.
Ar ben y gerddoriaeth, bydd yr 诺yl yn cynnig cynnwys llenyddol, celfyddydol, chwaraeon a chomedi yn ogystal ag ardal arbennig i blant.
Hefyd, bydd g诺yl ffrinj yn cael ei gynnal ar draws y brifddinas, gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis a bariau rhwng 15-23 Mehefin.
'Eclectig a chyffrous'
Dywedodd Llinos Williams, llefarydd ar ran Tafwyl: "Mae'n gr锚t gallu cynnig llwyfan i gymaint o artistiaid bob blwyddyn, a chyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd.
"Mae'r line up eleni yn un o'r goreuon eto ac yn dangos pa mor eclectig a chyffrous yw pethau yn y byd cerddoriaeth Gymreig ar hyn o bryd."
Gallwch weld y rhestr artistiaid yn llawn ar
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018