成人快手

Eisteddfod 'wedi cael rhybudd' am berygl safle Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Afon Conwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gododd Afon Conwy i'w lefel uchaf ar gofnod ym mis Mawrth

Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael rhybuddion am beryglon llifogydd fisoedd cyn newid safle'r Brifwyl eleni, yn 么l tystiolaeth sydd wedi ei weld gan 成人快手 Cymru.

Er gwaethaf cyhoeddi yn 2017 y byddai'r Brifwyl yn mynd i Lanrwst, roedd hi'n fis Rhagfyr 2018 cyn i'r trefnwyr gysylltu 芒 phrif gorff amgylcheddol Cymru am y tro cyntaf.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth yr Eisteddfod bod "peryglon ynglyn 芒 llifogydd ar y safle yma ger Llanrwst".

Mewn e-bost pellach fis Ionawr eleni, ddaeth i law Newyddion 9, dywedodd CNC wrth yr Eisteddfod: "Pe byddai'r cynnig hwn yn cael ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol, byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn lleisio pryderon sylweddol ynghylch perygl llifogydd y safle."

Mae'r Eisteddfod yn dweud y byddan nhw'n "dysgu gwersi".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sir Conwy ydy lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019

Cyhoeddodd yr Eisteddfod fis Mawrth y byddai newidiadau i'r safle yn dilyn llifogydd yn ardal Llanrwst, pan gyrhaeddodd Afon Conwy ei lefel uchaf ar gofnod.

Hefyd ym mis Mawrth dywedodd Prif Weithredwr y Brifwyl bod yna "wersi i'w dysgu" wedi iddi ddod i'r amlwg nad oes modd yswirio'r Eisteddfod ar sail y cynlluniau gwreiddiol.

Mae disgwyl i'r Brifwyl gael ei chynnal rhwng 2-10 Awst ond nid yw'r union leoliad wedi cael ei gadarnhau eto.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth y 成人快手: "Rydym wedi cydnabod y byddwn yn edrych i mewn i'r camau a gymerwyd er mwyn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu i'r dyfodol.

"Mi fydd y gwaith yna'n cael ei gynnal maes o law, ond am y tro mae t卯m yr Eisteddfod yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan Eisteddfod Sir Conwy faes teilwng ac addas, gyda dymuniad i'w gadw mor agos 芒 phosib i dref Llanrwst."