成人快手

'Dim ceiniog yn llai, a dim colli grymoedd'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Angen i'r Blaid Lafur ddod at ei gilydd' medd Mark Drakeford

Mae prif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi rhybuddio Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, i beidio defnyddio Brexit fel modd o gynyddu ei bwerau na gadael pobl Cymru ar eu colled yn ariannol.

Mewn araith i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno fe alwodd Mr Drakeford am amddiffyn y grymoedd sydd wedi eu datganoli a hefyd sicrhau arian cyfatebol i gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r sylw yn ymwneud 芒 chronfa mae Llywodraeth y DU yn dweud fydd yn cael ei sefydlu ar 么l Brexit ar gyfer ardaloedd sydd ar hyn o bryd yn derbyn arian o'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Drakeford pe bai Mr Cairns yn parhau i geisio defnyddio'r gronfa fel modd o gynyddu grym ei swyddfa yna "bydd yna frwydr. "

"Gadewch i mi roi rhybudd clir i Ysgrifennydd Cymru," meddai Mr Drakeford.

"Pe bai yn parhau i geisio defnyddio yr hyn sy'n cael ei alw yn Cronfa Ffyniant a Rennir fel modd o geisio mynd dros ben y Cynulliad Cenedlaethol, ac fel modd o roi llai o arian yna fe fydd yna frwydr."

Dywedodd y bod yn rhaid i Llywodraeth y DU sicrhau fod yr un faint o arian yn dod i Gymru, a bod yr un pwerau datganoledig yn cael eu cadw.

"Dim ceiniog yn llai, a dim colli grymoedd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeremy Corbyn: 'Ddim am greu rhwyg rhwng teuluoedd tlawd'

Ychwanegodd ei fod ganddo neges syml yngl欧n 芒'r etholiadau Ewropeaidd, sef eu bod yn rhaid eu cymryd yr un mor o ddifrifol ag etholiad cyffredinol

"Fe fyddwch yn clywed fod yr etholiadau yn ddibwys, nad ydynt werth y drafferth, i beidio ymgyrchu nac hyd yn oed pleidleisio. Peidiwch 芒 chredu hynny."

Yn ystod ei araith fe wnaeth gyhoeddi y byddai 拢2.3m yn cael ei neilltuo ar gyfer cynnig cynnyrch misglwyf i addysgwyr mewn ysgolion a cholegau.

Defnyddiodd y cyfle hefyd i ymosod ar Balid Cymru a'u polisi ar annibyniaeth.

"Pe bai chi yn credu fod gadael Marchnad sengl yr UE wedi bod yn llanast, just arshowch tan i Gymru ceisio gadael marchnad sengl y DU, " meddai.

'Heb adlewyrchu yn dda'

Yn ei araith ef i'r gynhadledd dywedodd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, mai'r rhwyg go iawn sy'n bodoli mewn cymdeithas yw'r un rhwyg y cyfoethog a'r tlawd ac nid Brexit.

Dywedodd mai ei blaid ef oedd yn ceisio datrys anallu T欧'r Cyffredin i symud ymlaen ar bwnc Brexit.

"Dyw Llafur ddim am greu sefyllfa lle mae teulu tlawd yng Nghaerdydd wnaeth bleidleisio i aros yn ymrafael yn erbyn teulu tlawd yn Wrecsam wnaeth bleidleisio i adael," meddai Mr Corbyn.

Ychwanegodd fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai dwys a heb adlewyrchu yn dda ar y drefn wleidyddol yn San Steffan.

Dywedodd ei fod yn 'gywilyddus' fod y cynnig am drafodaethau Brexit wedi dod mor hwyr yn y dydd o du'r Prif Weinidog.

Bydd ei blaid, meddai, yn parhau i drafod gyda'r llywodraeth er mwyn cadw at ganlyniad y refferendwm ond 'heb ddinistrio'r economi.'

Ond i gymeradwyaeth gan y gynhadledd ychwanegodd pe na bai hynny'n bosib, yna y dylai pob opsiwn fod ar gael, gan gynnwys ail refferendwm.