成人快手

Tenantiaid newydd yn stiwdios Pinewood yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pinewood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael beirniadaeth am "gatalog o wallau" yn eu cytundeb gyda Pinewood

Cwmni annibynnol sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu fydd tenantiaid newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer stiwdios Pinewood yng Nghaerdydd.

Mae cwmni Bad Wolf, sydd wedi ffilmio cyfresi sy'n cynnwys His Dark Materials eisoes yn berchen ar stiwdios yn ardal Splott yn y brif ddinas.

Cafodd Llywodraeth Cymru feirniadaeth am "gatalog o wallau" yn eu cytundeb gwreiddiol gyda chwmni ffilmiau Pinewood.

Mae'r cwmni cynhyrchu wedi cytuno i rentu'r safle am y 12 mis nesaf, gyda'r opsiwn o ymestyn y brydles am ddwy flynedd ychwanegol.

Symudodd Pinewood i Gymru yn 2015, ar 么l i Lywodraeth Cymru brynu'r safle ac roedd disgwyl i'r brydles wreiddiol barhau am 15 mlynedd,

Roedd ACau sy'n goruchwylio gwariant arian cyhoeddus yn hynod feirniadol o'r ffordd wnaeth y llywodraeth ymrwymo i gytundebau 芒 Pinewood i hybu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Arwyddodd Llywodraeth Cymru gytundeb "nad oedd ganddo fanylion [amdano], yn anwybyddu gwrthdaro buddiannau posibl, ac wedi prynu adeilad gyda tho sy'n gollwng heb gynnal arolwg strwythurol", yn 么l adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

'Cyfle arbennig'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant bod y cynllun gyda Bad Wolf yn "gyfle arbennig i sicrhau cytundeb hir dymor ar gyfer stiwdios Pinewood".

Yn 么l Natasha Hale, Prif Swyddog Gweithrediadau Bad Wolf, mae'r cwmni "yn falch o fod yn rhan o'r diwydiant teledu cyffrous yn y brif ddinas".

Bydd Bad Wolf yn ffilmio ail gyfres A Discovery of Witches ar gyfer Sky TV ar eu safle newydd yn ardal Gwynll诺g, Caerdydd.

Fel rhan o'r cytundeb newydd bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwelliannau i'r safle.