Animeiddio ei ffordd i LA
- Cyhoeddwyd
Mae Simon Chong yn wreiddiol o Lanberis ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Brynrefail. Wedi cyfnod o fyw yn Llandudno a mynd i'r brifysgol yn Middlesbrough aeth i fyw i Lundain lle dechreuodd ei yrfa ym myd animeiddio.
O'r fan yno fe ffrwydrodd ei yrfa pan gafodd swydd yn gweithio yn Los Angeles. Mae bellach yn gweithio fel is-gyfarwyddwr ar un o'r rhaglenni cart诺n mwyaf poblogaidd ar y teledu, Bob's Burgers.
"Dwi'n tynnu lluniau ers oeddwn yn ddigon hen i ddal pensil. Roedd Mam yn arfer dweud mai'r unig beth o'n i'n ei wneud tra'r o'n i'n blentyn oedd tynnu lluniau - do'n i ddim yn stopio! Byswn i'n tynnu lluniau cymeriadau o'r Simpsons, Super Mario, Sonic, neu unrhyw ffilm Disney o'n i newydd ei weld.
'Toy Story' yn drobwynt
"Nid tan i mi weld Toy Story yn 11 oed nes i sylweddoli mai dyna o'n i am wneud efo fy mywyd, animeiddio. Ddes i allan o'r sinema, ac o'r foment yna 'mlaen roeddwn eisiau animeiddio ac adrodd straeon."
Swydd gyntaf Simon oedd fel dylunydd yn Llundain.
"Roedd o'n ymwneud ag animeiddio yn y byd hysbysebion/marchnata ar gyfer digital signage, sef fel arfer y sgriniau animeiddio sy mewn ffenestri siopau."
Ond mae ei swydd bresennol yn Los Angeles yn dra gwahanol i'r hyn arferai wneud yn Llundain.
"Allai ddim siarad am fy ngwaith o ddydd i ddydd yn anffodus. Fel y mwyafrif o sioeau yma (UDA), mae'r cynhyrchu yn gyfrinachol ac yn dod o dan NDA (non-disclosure agreements). Dwi'n cael sgript a dwi'n llunio'r cymeriadau i'r sain sydd wedi ei recordio yn barod, ac mae rhaid i ni benderfynu sut mae'r golygfeydd am ymddangos yn weledol. Dwi'n caru'r gwaith!"
Parhau i ddysgu
Felly sut wnaeth Simon gyrraedd y man yma yn ei yrfa?
"Pan o'n i'n gweithio efo fy swydd gyntaf yn Llundain fe wnes i a fy rheolwr yno benderfynu gadael a chreu stiwdio animeiddio ein hunain. Wnaethon ni greu Headspin Media a'i redeg o efo'n gilydd.
"Rhywbeth o'n i wastad yn gwneud oedd dysgu triciau animeiddio newydd. Dydw i byth yn cael digon o ddysgu a wastad eisiau parhau i addysgu'n hun."
"Ro'n i'n gwneud hyn drwy ffeindio prosiectau dwi wir yn teimlo'n passionate amdanyn nhw. (gwefan allanol) lle'r oedd cymeriadau Book of Mormon yn dod i South Park."
"Roedd o'n lot o hwyl i wneud crossovers (cyfuno rhaglenni gwahanol yn un), ac fe wnaeth o fy mhwsio i wneud mwy. Wnes i ambell brosiect arall ond yr un mwyaf yr o'n i wir eisiau profi fy ngallu oedd rhaglen arall oedd yn cyfuno dwy raglen - Archer a Bob's Burgers.
"Bob's Burgers yw fy hoff raglen animeiddio erioed - " (gwefan allanol).
"Ro'n i eisiau gweld os fyswn yn gallu gwneud darn o animeiddio i safon teledu. Felly, wnes i dreulio saith mis yn gweithio gyda'r nos a phenwythnosau ar y darn yma. Ro'n i'n cymryd sain o'r ddwy raglen a'u trefnu fel bod yna ddeialog rhwng y cymeriadau, ac yna'n animeiddio'r holl beth.
"Wnes i roi o ar-lein yn y diwedd ym mis Gorffennaf 2017. O fewn tair awr roedd wedi ffeindio'i ffordd i swyddfeydd rhaglen Archer, ac o fewn 24 awr fe wnaeth Loren Bouchard, cr毛wr Bob's Burgers, gysylltu efo fi ar Twitter a chynnig swydd i mi!
"Tri mis yn ddiweddarach o'n i wedi gwerthu fy stwff i gyd a gadael Llundain am LA er mwyn gweithio ar y sioe - a dyna lle dwi 'di bod ers hynny. Bellach fi yw is-gyfarwyddwr Bob's Burgers, ac mae'r flwyddyn ers hynny wedi bod yn freuddwyd llwyr!"
Dylunio 成人快手r Simpson
"Eleni fe wnaeth Bob's Burgers gag am olygfa agoriadol The Simpsons gyda'r soffa. (gwefan allanol).
"Doeddwn i ddim ar y prosiect yn hir, a wnes i ddim gweithio yn swyddogol i'r Simpsons. Ond mi wnes i lunio 成人快手r dipyn, a oedd yn wych o ystyried mai llunio cymeriadau'r Simpsons yw lle dechreuodd y cyfan.
"Dwi wedi cyfarfod cast Bob's Burgers i gyd, ac maen nhw'n hyfryd. Ac mae wedi bod yn wych gweithio gyda sylfaenydd y rhaglen, Loren Bouchard. Dwi wedi gweld enwau mawr ar y bwrdd straeon yn dod i gymryd rhan fel cymeriadau gwadd ond dwi heb fynd atyn nhw i ddweud helo!"
"Dwi eisiau gweithio gyda Bob's Burgers am chyn belled ag y galla i, neu am ba mor hir mae'r sioe ar yr awyr. Mae hwn wir yn freuddwyd o job i fi, a gan fod gen i o r诺an dydw i ddim yn gadael iddo fo fynd heb ffeit! Ond byswn i'n hoffi cyfarwyddo rhywbryd yn sicr."
Gyda'i yrfa wedi saethu i fyny dros y ddwy flynedd ddiwethaf, beth fyddai cyngor Simon i unrhyw animeiddiwr sydd am ddechrau yn y maes?
"Fy nghyngor gorau i ydi i gario 'mlaen i greu pethau. Peidiwch byth 芒 stopio'ch creadigrwydd rhag mynd 芒 chi i'r cyfeiriad rydych chi eisiau mynd. Yn bwysicach na dim, gwnewch bethau i chi'ch hun. Peidiwch byth 芒 gwneud pethau i rywun arall."
"Meithrin sgiliau"
"Wnes i ddim gwneud y cart诺n Bob's Burgers/Archer er mwyn cael swydd, wnes i o i fy hun ac fel y gallwn barhau i ddysgu fy nghrefft. Mae beth ddigwyddodd ers hynna wedi bod yn anhygoel wrth gwrs, ond y pwrpas oedd addysg a meithrin sgiliau i ddechrau.
"Hefyd, os ydych chi'n dechrau, peidiwch 芒 gwneud beth ydych eisiau yn gyntaf. Gwnewch gyfres o bethau bach eraill sydd yn cynnwys elfennau o'r peth mwy yr ydych eisiau gwneud. Yna allwch fynd a dychwelyd at y peth mwy gyda'r wybodaeth o wneud y manylion bach yn gywir, a gwneud darn o waith sydd cystal 芒'ch disgwyliadau.
"Yn olaf, mwynhewch! Mae'r gallu i fod yn greadigol yn y gwaith yn rhywbeth hyfryd!"