成人快手

Atal gwaith Wylfa Newydd: 'Rhaid peidio colli momentwm'

  • Cyhoeddwyd
Wylfa

Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn fodlon rhoi mwy o arian at gynllun twf i ddatblygu economi gogledd Cymru ond bod "angen i Lywodraeth y DU gyfrannu mwy yn ogystal".

Daeth sylwadau Ken Skates wedi cyfarfod brys o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a gafodd ei drefnu mewn ymateb i benderfyniad cwmni Hitachi ddydd Iau i atal yr holl waith ar brosiect Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Cafodd y penderfyniad hwnnw ei ddisgrifio fel un "siomedig a phryderus", gan bod disgwyl i hyd at 9,000 o weithwyr adeiladu'r atomfa, ac i gannoedd o swyddi parhaol gael eu creu.

Yn 么l arweinydd Cyngor M么n, y Cynghorydd Llinos Medi mae'r bwrdd yn awyddus i sicrhau bod datblygwyr posib yn dal yn ystyried Ynys M么n fel y lle gorau ar gyfer codi atomfa yn y DU.

Cadw momentwm

Dywedodd Mr Skates bod "angen sicrhau nad ydyn ni'n colli momentwm o ran Wylfa Newydd" a "pharhau i gael ffyrdd o wneud yn sir ein bod yn cryfhau gwydnwch economi gogledd Cymru".

Ychwanegodd bod rhaid sicrhau cyfleoedd eraill ar gyfer pobl sydd wedi cael hyfforddiant a busnesau oedd yn paratoi ar gyfer prosiect Wylfa Newydd, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio gyda chyrff y rhanbarth "i gynnal y momentwm da yr ydym eisoes wedi ei sefydlu".

Wrth edrych ymlaen at y cyfarfod yn Llangefni ddydd Llun, fe ddywedodd is-gadeirydd y bwrdd bod Wylfa Newydd yn werth "biliynau" i'r economi leol.

"Mae'n anodd dychmygu'r symiau o arian rydyn ni'n siarad amdanyn nhw, felly mae'r effaith yn ddifrifol iawn," meddai'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, sydd hefyd yn arwain Cyngor Gwynedd.

Dywedodd AC Plaid Cymru Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, bod penderfyniad Hitachi yn bryder i'r holl staff a phrentisiaid sydd wedi eu cyflogi gan y cynllun.

"Dwi'n meddwl hefyd am y rhai sydd wedi rhoi eu gobeithion at y dyfodol ar y lle yma," meddai.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd o symud ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i Wylfa Newydd roi swyddi parhaol i gannoedd o weithwyr

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Ms Medi, sydd hefyd yn aelod o'r bwrdd: "Mae pawb yn deall pa mor bwysig ydy hwn i'r rhanbarth ac ella be' sy' 'di digwydd ydy bod y bwrdd yma wedi ei gymryd o'n ganiataol ac ella bod isio i ni feddwl o ddifri' r诺an sut 'da ni'n dangos ein cefnogaeth i hwn a'r effaith bositif mae'n mynd i gael nid yn unig i economi Sir F么n ond economi'r rhanbarth."

Mae gan Goleg Menai 700 o fyfyrwyr peirianneg, gyda llawer yn gobeithio manteisio ar gyfleoedd yn deillio o Wylfa Newydd.

Cadarnhaodd y coleg y byddai 30 o brentisiaid Horizon yn cael gorffen eu cyrsiau ac yn cael profiad gwaith ar ddiwedd eu hastudiaethau.

Dywedodd Hitachi iddyn nhw atal y gwaith ar 么l methu 芒 dod i gytundeb ariannol ar y cynllun 拢12bn.

Dywedodd is-gwmni Hitachi, Horizon, y byddan nhw'n "cadw'r opsiwn i ailgydio yn y datblygiad yn y dyfodol".

Er y cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn parhau i gredu y byddai datblygiad niwclear yng ngogledd Cymru.