成人快手

Ymgyrch recriwtio Mudiad Meithrin i 'hybu'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn lansio ymgyrch recriwtio fel rhan o'u hymateb i strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050.

Bydd yr ymgyrch recriwtio, ar gyfer staff llawn a rhan amser mewn Cylchoedd Meithrin, yn cynnwys hysbysebion teledu, baneri a phosteri hyrwyddo a rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dyma'r tro cyntaf i'r mudiad gynnal ymgyrch recriwtio yn benodol ar gyfer Cylchoedd Meithrin, a daw yn sgil ymdrech i weithio tuag at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Mudiad Meithrin: "Mae sefydlu Cylchoedd Meithrin newydd wedi rhoi momentwm ychwanegol i ni o ran canfod staff yn sgil 'Cymraeg 2050' ac mae'r ymgyrch hon o fudd i bob cylch Meithrin."

Mae bron i 2,000 o staff yn gweithio mewn Cylchoedd Meithrin ar draws Cymru ar hyn o bryd, a 12 swydd wag sydd ar gael yn 么l y llefarydd.

Mae'r strategaeth iaith yn nodi y bydd yn cefnogi'r gwaith o "ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar i 40 yn fwy o grwpiau meithrin erbyn 2021 er mwyn hwyluso dilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny er mwyn cyrraedd 150 yn fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf".

Nod cychwynnol y Mudiad Meithrin yw agor 12 Cylch Meithrin newydd erbyn diwedd Mawrth 2019.