Pryder fod trefi rhanbarthol yn cael eu 'hesgeuluso'
- Cyhoeddwyd
Gall trefi llai gael eu hesgeuluso oherwydd y ffocws cynyddol ar ddinasoedd a'u hardaloedd cyfagos, yn 么l y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB).
Mae'r ffederasiwn yn galw am gyllid newydd i gefnogi trefi a'u helpu i lunio strategaethau newydd.
Ychwanegodd fod ceisio denu siopau adrannol yn "strategaeth wan" yn sgil problemau diweddar cwmn茂au fel House of Frasers a Debenhams.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "nifer o fesurau" ar waith er mwyn cefnogi canol trefi.
'Esgeuluso trefi llai'
Daw sylwadau'r FSB wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgyrch sy'n annog y cyhoedd i gefnogi'r sector manwerthu.
Roedd lefelau gwacter yng nghanol trefi Cymru yn 13% yn 2017 o'i gymharu 芒 11.1% yn Lloegr ac 11.9% yn yr Alban.
Dywedodd y ffederasiwn fod y ffocws ar yr ardaloedd o amgylch Caerdydd ac Abertawe yn bygwth esgeuluso trefi llai lle mae 40% o'r boblogaeth yn byw.
Mae cytundebau dinesig Caerdydd ac Abertawe eisoes wedi cael eu cymeradwyo.
Mae Ben Cottam o'r FSB wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn galw arno i greu "Cronfa at Ddyfodol Trefi Cymru" a chyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes, tebyg i'r hyn a gafodd ei grybwyll ar gyfer Lloegr yn y Gyllideb ddiweddaraf.
Yn y llythyr mae'n dweud: "Tra ein bod yn croesawu datblygiad y dinasoedd a'r cytundebau dinesig, nid yw'r cynigion yn mynd i'r afael ag anghenion ein trefi rhanbarthol."
Dywedodd wrth 成人快手 Cymru: "Mae yna beryg drwy ganolbwyntio ar feddylfryd rhanbarthol a chytundebau dinesig, ein bod ni'n methu colli cyfleoedd ardderchog ar gyfer economi Cymru a'n cymunedau lleol."
"Mae busnesau mawr yn bendant yn rhan o'r drafodaeth yma, ond rydyn ni wedi cael gormod o copy and paste. Roedd pob canol tref eisiau edrych fel ei gilydd... dyma'r fodel sydd wedi bodoli ers 30 mlynedd ond ni all hyn barhau.
"Gwelwn ni nawr fod rhai o'r cwmn茂au mawr fel Debenhams, House of Fraser a Maplin yn wynebu'r un problemau 芒 nifer o'r manwerthwyr llai, felly beth sydd ei angen yw i fusnesau mawr a bach gydweithio er mwyn gwneud y mwyaf o'u safleoedd."
'Ar ei fyny' yng Nghaernarfon?
Mae sawl rheswm i ddadlau bod pethau "ar ei fyny" yng Nghaernarfon, medd y perchennog siop sglodion, Endaf Cooke, gan gynnwys datblygu ardal gorsaf Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri a chamau i wella edrychiad y dref.
Ond mae'n teimlo "bod yna ddiffyg rhannu gwybodaeth efo'r busnesau bach" ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
"Da ni'n teimlo bod y business rate relief yn rhy isel," meddai. "Yn Lloegr, ers flwyddyn dwytha, i ryw fusnes efo rateable value o 拢12,000 ac o dan, 'dyn nhw'm yn talu treth o gwbl.
"Yng Nghymru, 拢6,000 ydi o. 'Da ni'n gweld hynna'n annheg, a 'da ni'n teimlo fysa hynny yn hwb fawr i fusnesa bach. Fasa'r arian yna yn gallu mynd i ella roi gwaith i rywun."
'Cyfnod anodd i'r sector'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym ni sawl mesur yn eu lle er mwyn cefnogi canol trefi, a llynedd cafodd rhaglen gwerth 拢100m o fuddsoddiad adfywio ei lansio i gefnogi busnesau yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf."
"Rydyn ni'n ystyried sut y gall unrhyw gyllid sy'n dilyn o hynny gael ei ddefnyddio i adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i gefnogi busnesau a chymunedau ar hyd Cymru."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates: "Mae siopau o bob maint yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau bob dydd, ond gyda newidiadau i'r ffordd y mae pobl yn siopa a chystadleuaeth gynyddol, does dim amheuaeth ei bod hi'n gyfnod anodd i'r sector.
"Y gwirionedd yw, os nad ydyn ni'n dathlu'r sector a sicrhau ein bod ni'n gwneud defnydd llawn ohoni, yna rydyn ni mewn peryg o golli rhannau hanfodol ohoni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018