成人快手

Ateb y Galw: Yr actores a ffotograffydd Catrin Arwel

  • Cyhoeddwyd
Catrin ArwelFfynhonnell y llun, Catrin Arwel

Yr actores a ffotograffydd Catrin Arwel sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Steffan Rhodri yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar g么l fy hen dad-cu o flaen y t芒n yn Llangadog a fe yn bwydo Matchmakers i fi.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Scott o Neighbours - big time crush!

Ffynhonnell y llun, FremantleMedia Ltd/REX
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn anffodus i Catrin, daliodd Scott, a'i 'mullet', lygad Charlene, ac fe briodon nhw yn 1988 (ac mae'n debyg eu bod dal yn hapus hyd heddiw)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cwmpo i gysgu yn foyer y Park Plaza ar 么l y BAFTAs... yonkers yn 么l... a deffro am 7 y bore a gorfod ordro taxi of shame adre! Siomad enfawr!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Yn yr American Conservatory Theatre yn San Francisco w'thnos dwetha' pan es i weld A Thousand Splendid Suns. Drama torcalonnus a hollol amazing!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Na?!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gardd Mam a Dad yn Llandybie.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ein priodas ar yacht ar y Tafwys gyda'n teulu a ffrindie n么l ym mis Chwefror!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n debyg nad uchafbwynt Catrin oedd cyfarfod 芒 Michael Aspel wrth ffilmio ymweliad Emma, Diane a Cai ag 'Antiques Roadshow' ar Pobol y Cwm...?

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Anturiaethwr, skatty, ffrind.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Byth yn gallu ateb hyn achos ma 'na gymaint, ond rili mwynhau darllen The Museum of Innocence gan Orhan Pamuk ar y foment. Mae wedi'i leoli yn Istanbul yn y 70au. Fi'n gweithio allan yno w'thnos nesa' fel mae'n digwydd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Elvis achos bo' fi tamed bach yn obsessed gyda fe...

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi'n mynd bant ar wylie ar ben fy hun heb y g诺r weithie achos bo' fi'n rili hoffi cwmni fy hun!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti mawr gyda fy holl ffrindie a theulu.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Kissing You gan Des'Ree o'r film Romeo and Juliet. Sopi ond yn hollol lysh!

O Archif Ateb y Galw:

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Mimosa i ddechre (!), lobster Thermidor, ddim yn fan mawr o pwds... felly espresso yn lle!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Belle, y ci. Ma' bywyd lyfli gyda hi!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhian Jones