成人快手

Ymgyrch dysgu arnofio gan yr RNLI i achub bywydau

  • Cyhoeddwyd
rnliFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robert Critcher a'i fab Ellis (yn y canol) gyda chriw bad achub Penarth a'i achubodd

Gyda phenwythnos G诺yl y Banc arall ar droed, mae sefydliad y badau achub - yr RNLI - wedi lansio'i ymgyrch blynyddol, Parchwch y D诺r.

Mae'r ymgyrch yn rhedeg ers pum mlynedd, ac mae nifer y marwolaethau ger arfordir Cymru yn flynyddol wedi lleihau.

Yn 2013, bu farw 19 o bobl yn y dyfroedd ger yr arfordir. Erbyn 2017 roedd y ffigwr i lawr i wyth.

Er hynny mae rhai o'r ystadegau yn peri pryder i'r RNLI. O'r wyth fu farw, doedd pump ddim wedi bwriadu mynd i'r d诺r, ac roedd pob un o'r wyth yn ddynion.

'Ffidil yn y to'

Un fu'n ffodus yw Robert Critcher o Gaerdydd. Disgynnodd o'i gaiac i'r m么r ger Penarth, ond cafodd ei achub gan yr RNLI, ac mae'r rhan o ymgyrch eleni i annog pobl i ddysgu arnofio yn hytrach na nofio.

Dywedodd Mr Critcher: "Yn y dechrau roeddwn i'n medru cadw fy mreichiau a 'mrest allan o'r d诺r, ond ar 么l 20 munud roeddwn i wedi blino'n lan.

"Roedd fy ffrind yn fy nal allan o'r d诺r, ond roeddwn i ar fin rhoi'r ffidil yn y to a dweud wrtho am fy ngadael.

"Dim ond meddwl am Ellis, fy mab 18 mis oed, wnaeth fy nghadw i fynd.

"Greddf naturiol yw ceisio brwydro mewn sefyllfa fel yna, ond mae'n gwneud llawer mwy o synnwyr i arbed eich egni ac arnofio."

Llwyddodd bad achub Penarth i gyrraedd Mr Critcher yn y niwl a'i achub.

'Croes i'r graen'

Prif neges yr RNLI yn yr ymgyrch eleni yw galw ar y cyhoedd i ymarfer arnofio - sgil syml sy'n gallu achub bywydau.

Dywedodd yr Athro Mike Tipton o Brifysgol Portsmouth, arbenigwr ar sioc mewn d诺r oer: "Mae greddf ddynol yn gallu lladd yn yr achos yma... mae panig a cheisio nofio'n syth yn gallu cynyddu'r siawns o anadlu d诺r i mewn ac mae'n gadael aer allan o'r dillad, sy'n gwneud i rywun suddo.

"Er ei fod yn groes i'r graen, y peth gorau i wneud yn y dechrau yw arnofio ar eich cefn.

"Unwaith y byddwch wedi rheoli eich anadlu, gallwch wedyn nofio tuag at ddiogelwch, galw am help neu barhau i arnofio tan fydd y cymorth yn cyrraedd."

Dywedodd Chris Cousens o RNLI Cymru: "Mae'n galonogol iawn bod y ffigwr am farwolaethau yn llai na'r blynyddoedd blaenorol.

"Ein gobaith yw y bydd ein hymgyrch yn parhau i leihau marwolaethau ond mae'n hanfodol i ni drosglwyddo'r neges er mwyn sicrhau bod y ffigwr yn dal i leihau yn y dyfodol.

"Mae un person yn boddi yn un yn ormod."