Mae cael symbol yn dy enw yn gallu bod yn boen...
- Cyhoeddwyd
Mae gan nifer o ieithoedd y byd lythrennau unigryw neu symbolau ar eu llythrennau, fel y tilde (帽) yn Sbaeneg, yr umlaut (篓) mewn Almaeneg, ac wrth gwrs, yr acen grom, neu to bach, yn Gymraeg.
Ond faint o wahaniaeth mae'r symbolau yma yn ei gael, mewn gwirionedd?
Yn ddiweddar, lansiodd y Central Statistics Office yn Iwerddon, adran ar eu gwefan lle gallwch chwilio drwy enwau babis sydd wedi eu cofrestru yno ers 1964.
Ond os oes gennych chi acen (fada) ar eich enw, fel yn Se谩n, R贸is铆n neu Sin茅ad, nid yw'ch enw yn ymddangos yn y rhestr.
Felly mae hi fel tasech chi ddim yn bodoli.
Mae hyn wedi mynd o dan groen nifer o Wyddelod, gan fod y fada yn ymddangos mor aml mewn enwau Gwyddeleg.
Mewn llythyr at bapur The Irish Times, roedd Rossa 脫 Snodaigh yn wrthwynebus iawn i hyn, gan egluro y gallai peidio 芒 defnyddio'r acen wneud gwahaniaeth mawr i enw...
"Mae'r enw 脫rla yn golygu 'tywysoges euraidd', tra fod Orla yn golygu chwd... A phwy na fyddai'n teimlo sarhad o gael eich cofnodi fel Sine, sy'n golygu teth, pan mae S铆ne yn golygu rhodd gan Dduw?!"
Pwysigrwydd y to bach
Wrth gwrs, nid yw defnyddio neu hepgor y to bach yn cael gymaint o effaith 芒 hynny ar enwau Cymraeg, ond mae hi dal yn bwysig eu cynnwys, meddai'r gantores Lisa J锚n Brown:
"Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig, achos mae o yn rhywbeth sydd yn y Gymraeg ac nid yn y Saesneg. Dwi yn cael pobl yn ei ynganu fel 'Lisa Jen' yn aml, ond dwi'n eu cywiro, ac egluro fod y to bach yn yr iaith Gymraeg yn gwneud y llythyren yn hir. Mae o'n codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a'n traddodiad ni, sydd mor bwysig i mi.
"Os dydi pobl ddim yn ei sgrifennu, dwi ddim yn mynd yn flin, nac yn mynd yn offended 'na'm byd. Ydy, mae o'n annoying, ond 'na i ddim codi'r peth!
"Dwi'n meddwl ei fod o'n edrych yn hardd, yn nodweddiadol o'r Gymraeg. Dwi'n licio'r ddelwedd ohono ar y sgwennu, ac mae'n rhoi rhyw lun bach gwahanol. Dwi'n fwriadol wedi rhoi to bach yn enwau canol fy mhlant i - Liwsi M么, ar 么l Morfudd, ei hen Nain hi, a Betsi L诺."
Mae Ll欧r Griffiths-Davies, cyflwynydd tywydd ar 成人快手 Radio Cymru, yn bod ychydig llai cyson wrth ddefnyddio'r to bach yn ei enw ef:
"Mae'n rhaid i mi gyfaddef, er cywilydd, mai ychydig o sylw dwi'n ei roi i'r to bach.
"Dwi'n ei gynnwys bob tro dwi'n ysgrifennu 芒 llaw neu'n taro llofnod ar rhywbeth, ond yn electronig mae'n amrywio. Does gan fy ff么n ddim rhyngwyneb Cymraeg, ond dwi wedi lawrlwytho ap sy'n fy ngalluogi i deipio'n Gymraeg.
"Mae'n hawdd cynnwys y to bach ar y cyfrifiaduron yn y gwaith, ond dwi ddim yn gwbl si诺r lle i ddod o hyd i doeau bach ar fy ngliniadur adre, felly'n aml fydda i ddim yn ei gynnwys.
"Dyw e ddim ar fy mhasport, nac ar fy nghardiau banc, ond rhyw ffordd dwi erioed wedi meddwl am y peth. I mi, mae sut mae rhywun yn dweud fy enw'n bwysicach na'r to bach.
"Ond, wedi dweud hynny, Ll欧r yw fy enw, dyna sy'n edrych yn iawn, i mi beth bynnag.
"Dwi'n cofio un tro, roeddwn yn gwisgo bathodyn enw, a dyma rhywun oedd yn rhugl yn y Gymraeg yn nodi mai Llyr oedd enw eu mab nhw hefyd, cyn ychwanegu 'ond 'da chi 'di dewis ei sillafu fo'n anghywir, efo'r to bach'!"
Mae gan Si么n Wyn F么n, cyfreithiwr sy'n byw ym Mancenion, ddos ddwbl o'r to bach yn ei enw...
"Dwi'n 'nabod digon o Si么ns sydd ddim yn defnyddio'r to bach a ddim yn poeni os oes to bach neu ddim, ond dwi'n trio'u defnyddio nhw bob tro, yn enwedig mewn pethau ffurfiol - dim Sion Fon ydw i!
"Pan nes i ddechrau yn y gwaith, nes i orfod siarad efo'r t卯m technoleg er mwyn gwneud yn si诺r eu bod nhw'n rhoi'r toeau bach yn y llofnod ar waelod fy e-byst. A doedden nhw ddim rili'n dallt, gan eu bod nhw'n dod o Fanceinion.
"Ond dydi o ddim yn mynd ar fy nerfau gymaint 芒 hynny os 'di pobl ddim yn rhoi to bach. Mae pobl yn eitha' intrigued a dwi'n hapus i esbonio a siarad amdano fo.
"Os dwi'n cofrestru ar-lein ar gyfer rhywbeth, dydy o ddim wastad yn 'nabod y llythyren. Dwi weithia' yn derbyn bach o nonsens yn 么l gan ei fod o'n cynnwys y cod cyfrifiadurol ar gyfer y symbol - a mae'n fy ngalw i yn Mr F Alt-0244 n!
"Felly, ar y cyfan, cyfrifiaduron a Saeson sydd ddim cweit yn dallt!"