成人快手

Sharon Roberts sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Sharon RobertsFfynhonnell y llun, S4C

Yr actores Sharon Roberts sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Bryn F么n wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Yfed llefrith amser chwarae yn yr ysgol gynradd. O'dd o'n codi pwys arna i achos o'dd y llefrith wastad yn gynnes.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Starsky.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Reversio'r car lawr steps derbynfa Seiont Manor... O'n i'n styc yno am ddwy awr a hanner.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n cr茂o am rwbath bron bob dydd! Mae o'n beth iach.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Edrych fel bo' fi'n gwrando, ond dwi ddim go iawn!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yw Sharon yn dod ar draws Gavin, Stacey a'r criw pan mae hi'n ymweld ag Ynys y Barri?

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys y Barri: traeth, hufen i芒 a ffair. Be' sy' ddim i' licio?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gate-crashio priodas posh iawn yn Llundain hefo criw o ffrindiau ac esgus bod yn rhywun arall drwy'r nos.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Plentynaidd. Aeddfed. Cyfnewidiol!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Postcards from the Edge gan Carrie Fisher.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Thomas Sankara. Mae angen chwyldroadwr fel hyn rwan mwy nac erioed. A dyna 'swn i'n deud wrtho fo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Thomas Sankara yn chwyldroadwr ac yn arlywydd ar Burkina Faso yn yr 1980au. Mae'n cael ei alw yn 'Che Guevara Affrica'

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi ddim yn dda iawn hefo treigladau.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Trio dwyn y crown jewels... pam lai!

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Superstition gan Stevie Wonder. Achos ma' hi'n amhosib peidio dawnsio iddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stevie yn cytuno ei bod hi'n amhosib peidio dawnsio i Superstition!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Unrhyw beth Thai i'r ddau gwrs cyntaf. Ben and Jerry's Caramel Choo Choo i bwdin - lysh!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

David Attenborough.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Llinor ap Gwynedd