成人快手

Ateb y Galw: Iddon Jones

  • Cyhoeddwyd
iddon

Yr actor Iddon Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhys Bidder yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Chwara' army efo fy mrawd a'n chwaer yn yr ardd hefo andros o wn d诺r mawr.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Sarah Michelle Gellar a Natalie Portman... Dwi'n dal i ffans茂o nhw.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd 'na foi oedd yn mynd ar nerfa pawb yn coleg. Brolio o hyd fod ei gariadon o'n ddelach na pawb arall ac wastad angan sicrwydd gan yr hogia. Mi ddangosodd o lun o'r cariad diweddara' i ni ac heb sbio yn iawn ar y llun ddudish i "yeah she's lovely, strange hands though, but yeah she looks lovely". Y bwriad oedd 'mond i'w daro fo oddi ar ei echel.

Wythnos yn ddiweddarach o'n i mewn tafarn a theimlais i rhywun yn tapio f'ysgwydd. "Are you Iddon Jones?" gofynnodd y ferch. Troais yn 么l i weld p芒r o ddwylo bach yn hwrjio tuag at fy wynab. Yn lloerig gwaeddodd dros y dafarn: "You're the one who's been making fun of these."

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tair wythnos yn 么l mewn cartref i blant amddifad oedd wedi cael eu hachub o'r bywydau mwyaf erchyll erioed.

Roedd eu hagwedd at fywyd mor bositif sefais yno mewn syndod llwyr at gryfder ac ysbryd y bobol ifanc. Enyd fydd yn y cof am yn hir iawn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'm yn tecstio rhywun yn 么l yn syth! Dwi'n trio meddwl be' wna'i dd'eud wedyn dwi'n anghofio bo' fi'm 'di atab.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanddwyn - O chwedl Dwynwen i brydferthwch yr ynys a'i golygfeydd. Dwi wedi fy hudo ganddi ers blynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Playfulproductions
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iddon ar y llwyfan yn y sioe lwyddiannus 'Wicked'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ennill BAFTA Cymru am y ffilm fer orau yn 2015. Wedi ei saethu ar Llanddwyn, fel mae'n digwydd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ffyddlon, angerddol, gwrthrychol.

Beth yw dy hoff lyfr?

The Sea The Sea - gan Iris Murdoch.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Nain a Taid Llanfihangel... pobol arbennig wnes i erioed eu cyfarfod.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Fantastic Beasts and where to find them - ar awyren n么l o Manila. Dwi yn gegrwth wrth feddwl sut ma' dychymyg JK Rowling wedi cydio yng nghalon cenedlaethau o bobol.

Ma'r ffilm fel ei bod hi'n tyfu efo darllenwyr gwreiddiol Harry Potter ac yn cynnig mwy i'r gwylwyr/darllenwyr 'na 'chydig o adloniant. Mae'r chwedl fel meddyginiaeth felys i foesoldeb cymdeithas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iddon pan oedd o'n chwarae Osian yn Rownd a Rownd

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael diod hefo pawb sydd wedi gneud i fi chwerthin yn ystod yr hen siwrna' 'ma. Out with a bang!

Dy hoff albwm?

O - gan Damien Rice.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf. Ma' 'na fwy o ddewis fel arfer. Well gen i lot o betha' bach gwahanol yn lle un mawr. A dwi'm yn foi pwdin. Rwbath fatha smoked duck salad hefo walnuts a pear dressing.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Trump - a 'swn i'n ymddiswyddo. Gwneud ffafr 芒 phawb.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Sharon Morgan.