成人快手

Bryn F么n sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Bryn F么n

Y canwr a'r actor Bryn F么n sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Morfudd Hughes wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Reidio beic tair olwyn ar hyd y landing tua pump o'r gloch fore Nadolig. A fy chwiorydd yn rhuthro mewn pryd i fy atal rhag syrthio lawr y grisiau!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Mrs Glenys Jones, athrawes ysgol gynradd. Roedd hi'n gwisgo mini-skirts.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Sefyll ar fy nghlogyn fy hun tra'n chwarae rhan Owain Glyndwr ar y llwyfan yn Aberystwyth, a baglu oddi ar y llwyfan yn ddisymwth ynghanol fy araith fawr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bryn F么n (dde) yn chwarae rhan cymeriad Tecwyn Parry yn C'mon Midff卯ld

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wedi cr茂o lot yn ddiweddar mewn angladdau ffrindiau da.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, dwi'n ddyn tydw!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dyffryn Nantlle - teimlo mod i'n perthyn i'r lle a'r bobol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Bryn F么n yn rhan o d卯m yn 2015 fu'n ceisio creu anthem ar gyfer ardal Dyffryn Nantlle

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gweler fy ngh芒n Noson Ora 'Rioed...!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol. Gonest. Oriog.

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Llyfr - Hanes Cymru gan John Davies. Ffilm - One Flew Over the Cuckoo's Nest.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Wil Sam, Stewart Jones a John Ogwen. P'nawn difyr, fel yn y dyddiau fu, a straeon difyr a chelwyddog.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Rydw i'n hoffi coginio.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Coginio pryd bendigedig i fy nheulu a'n ffrindiau ac yna cyd-fwyta ac yfed gwin da tra'n gwylio'r machlud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bryn F么n bellach yn 么l ar y sgrin fach fel Dr Elgan Pritchard yn Pobol Y Cwm

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Tower of Song gan Leonard Cohen. C芒n hwyliog, ddoniol ar un wedd, ond c芒n sydd yn d'eud dipyn am y diwydiant cerdd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cregyn bylchog wedi eu ffrio mewn wisgi Penderyn. Cig oen wedi ei rostio yn ara' deg gyda garlleg a rhosmari. Pwdin bara.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Neb - ddim am fod yn gyfrifol am fywyd neb arall - hyd yn oed am ddiwrnod.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Sharon Roberts

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydy Sharon Roberts (Gaynor yn Pobol Y Cwm) wedi derbyn cyngor ar sut i ateb cwestiynau Ateb y Galw?