成人快手

Degau o filoedd yn anwybyddu negeseuon profion canser

  • Cyhoeddwyd
pelydr x o goluddynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 1,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o ganser y coluddyn

Mae cyfraddau'r rheiny sydd yn goroesi canser y coluddyn yng Nghymru wedi gwella - ond mae degau o filoedd yn parhau i anwybyddu ceisiadau i fynd am brofion.

Bydd cynllun sgrinio Cymru-gyfan yn nodi deng mlynedd o fodolaeth yn 2018, gyda phawb rhwng 60 a 74 oed yn cael gwahoddiad i gael eu profi bob dwy flynedd.

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn dweud fod 280,000 o bobl yn cael cais i gymryd rhan bob blwyddyn, mewn ymgais i geisio dod o hyd i'r afiechyd yn gynnar.

Ond mae bron i 128,000 yn anwybyddu'r gwahoddiadau hynny, a'r cyfle i gael eu profi neu drin.

Dynion yn llai tebygol

"Mae canfod canser drwy sgrinio yn golygu'n bod ni'n gallu eu canfod yn gynt, fel bod modd trin yn gynt," meddai Helen Lewis, ymgynghorydd gwarchod iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae gan bobl sy'n cymryd rhan wedyn siawns well o oroesi a bod yn iach."

Mae cyfraddau ar gyfer y rheiny yng Nghymru sy'n byw am flwyddyn ac am bum mlynedd ar 么l diagnosis wedi gwella rhywfaint ers i'r cynllun profi gael ei gyflwyno.

Ar y cyfan mae 58% o gleifion sydd yn cael clywed fodd ganddyn nhw ryw fath o ganser y coluddyn dal yn fyw bum mlynedd yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canser y coluddyn yn un o'r pum canser sydd yn lladd y mwyaf o bobl yng Nghymru

Ond mae'r afiechyd yn parhau i fod yn un o'r rheiny sy'n lladd y mwyaf o bobl yng Nghymru - gyda 7,290 yn marw rhwng 2008 a 2015.

Yn 么l Sgrinio Coluddion Cymru maen nhw'n canfod 200 achos o ganser bob blwyddyn, yn ogystal 芒 thrin 1,000 o gleifion allai fod 芒 pholypau tusw allai arwain at ganser.

Ond dywedodd Mrs Lewis fod rhai pobl, gan gynnwys dynion a phobl o gefndiroedd difreintiedig, yn llai tebygol o anfon eu hoffer sgrinio yn 么l.

"Mae pobl yn aml yn meddwl, yn anghywir, fod dim ond angen cael eich profi os oes gennych chi symptomau, neu hanes o ganser y coluddyn neu anhwylderau'r coluddyn yn y teulu," meddai.

Un sampl

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i bobl sydd yn cymryd y prawf gasglu sampl o'u hysgarthion dros sawl diwrnod - rheswm arall pam nad yw nifer yn gwneud.

Ond mae Sgrinio Coluddion Cymru yn bwriadu cyflwyno prawf newydd erbyn 2019 fyddai'n golygu mai dim ond un sampl fyddai angen ei chasglu.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd symud i'r prawf hwnnw yn ei wneud yn fwy derbyniol i'r rheiny sy'n cymryd rhan, a gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy yn cael eu profi," meddai Mrs Lewis.

Mae cynlluniau hefyd ar droed i ymestyn y cynllun i fod ar gael i unrhyw un dros 50 oed yn y dyfodol, fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban.