Pryderon am ddiogelwch cludiant ysgol i blant anabl
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni plant anabl yn bryderus am ddiogelwch y gwasanaeth cludiant ysgol oherwydd toriadau posib i'r gwasanaeth.
Daw'r pryderon wrth i Gyngor Pen-y-bont ystyried torri'r gwasanaeth tywys mewn ymgais i arbed 拢13,000.
Yn 么l ymgyrchwyr a rhieni byddai cael gwared 芒'r gefnogaeth un i un yn golygu y gallai plant bregus "fod mewn perygl".
Mae Cyngor Pen-y-bont yn dweud mai dim ond llwybrau lle nad oes risg uchel fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r toriadau.
Arbed 拢13,000
Tra bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol i blant anabl, does dim gorfodaeth statudol i ddarparu tywyswyr i'r rhai sydd angen cefnogaeth un i un.
Mae rhieni wedi cysylltu gyda 成人快手 Cymru gan ddweud eu bod yn pryderu y bydd cael gwared 芒 thywyswyr yn golygu bod yna risg y gallai eu plant anafu neu niweidio'u hunain, neu eu bod yn tynnu sylw'r gyrrwr gan na fyddai ail oedolyn yn bresennol.
Mae rhai rheini wedi penderfynu peidio gadael i'w plant ddefnyddio'r gwasanaethau am eu bod yn poeni am ddiogelwch.
Canlyniad hynny yw bod rhai wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith, neu leihau eu horiau, fel eu bod yn gallu mynd a'u plant i'r ysgol.
Mae Cyngor Pen-y-bont yn ystyried cael gwared 芒 thywyswyr ar gyfer plant ysgolion cynradd yn y sir mewn achosion lle mae llai nag wyth o blant yn cael eu tywys.
Torri yn 么l ar oriau gwaith
Byddai hyn yn arbed 拢13,000 yn 2019-20 medd yr adroddiad.
Ond mae'r ddogfen hefyd yn dweud bod yna risgiau diogelwch.
Byddai yn rhaid cael ymgynghoriad cyhoeddus, medd yr adroddiad, am fod yna bosibilrwydd na fyddai gyrwyr yn teimlo eu bod yn gallu gwarantu diogelwch y disgyblion.
Pryder Anabledd Cymru yw os bydd toriadau yn cael eu gwneud wrth i'r esgid wasgu ar gyllidebau, y bydd plant mewn perygl ac y bydd teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Dywedodd llefarydd bod rhieni yn ddibynnol ar y gwasanaeth ac na fyddai gyrwyr yn gallu cynnig digon o gefnogaeth gan y byddai rhai plant yn brifo eu hunain, yn cicio seddi ac yn ceisio tynnu sylw'r gyrrwr.
Roedd yn rhaid i Sue - nid ei henw iawn- dorri yn 么l eu horiau gwaith er mwyn mynd a'i mab, naw oed, i'r ysgol ar 么l dechrau poeni mai dieithryn oedd yn ei yrru i'r ysgol.
R么l bwysig
Fe benderfynodd un fam roi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth ar 么l darganfod bod y gyrrwr wedi cael ei anfon i'r carchar.
Er bod gan Sue bryderon am yr hyfforddiant a'r mesurau diogelwch mae'n credu bod cael tywyswr i hebrwng plant yn hanfodol i wneud yn si诺r bod dim byd yn mynd o'i le.
"Maen nhw ar y bws neu yn y tacsi am oriau bob dydd. Mae 'na lot o risg. Mae'r system yn agored i rywun ei chamddefnyddio hi," meddai Sue.
"Mae'r plant yma ar ben eu hunain gyda'r bobl yma yn ystod y daith.. Chi ddim yn gwybod dim byd amdanyn nhw."
Cosbi ymddygiad anaddas
Weithiau, meddai, does ganddyn nhw hyd yn oed gerdyn adnabod.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont gadarnhau bod yr awdurdod yn rhoi cyngor i dywyswyr ond mai cyfrifoldeb y cwmni sydd yn mynd 芒'r plant i'r ysgol yw hyfforddiant.
"Mae unrhyw honiad o gamweinyddu neu ymddygiad anaddas gan dywyswyr yn cael eu hymchwilio yn drylwyr gyda'r camau addas yn cael eu cymryd."
"Mae'r tywyswyr yn cael eu cyflogi gan ein darparwyr cludiant ac yn gorfod gwneud archwiliadau DBS.
"Rydyn ni'n gweithredu pan fod troseddau yn dod i'n sylw ac yn cael gwared a'r tywyswr, pe bai'r drosedd yn gwarantu hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017