Llygredd Nantycaws: Trigolion yn parhau heb iawndal
- Cyhoeddwyd
Dros flwyddyn ers i 140,000 litr o olew ollwng i afon yn Sir Gaerfyrddin, mae pobl leol yn parhau i ddisgwyl am iawndal.
Mae Valero, sy'n berchen ar y bibell, wedi rhoi 拢40,000 i'r cyngor cymunedol "mewn cydnabyddiaeth o amynedd trigolion".
Ond mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad yn Nantycaws yn dweud eu bod wedi derbyn dim.
Mae'r cwmni yn mynnu eu bod "mewn cysylltiad cyson gyda thrigolion a thirfeddianwyr" yngl欧n 芒'r mater.
'Costio miloedd'
Mae Gareth Rees yn ffermio tir ger Nant Pibwr - un o'r nentydd gafodd eu heffeithio gan y cerosin.
Dywedodd wrth 成人快手 Cymru nad yw'r trafodaethau rhwng trigolion a'r cwmni'n mynd yn dda.
"Rhwng popeth mae e wedi costio miloedd - colli bwyd i'r anifeiliaid, colli'r afon fel ffynhonnell d诺r i'r gwartheg a llawer iawn o amser hefyd.
"Ar y foment mae asiant gyda ni o Valero, ond mae'n dipyn o broblem cael arian mas o'r cwmni. Dydyn nhw ddim yn fodlon cyfaddef eu bai.
"Roedden nhw'n addo popeth ar y dechrau, ond nawr mae popeth wedi mynd yn dawel - maen nhw'n anghofio biti fe.
"Maen nhw'n ceisio cerdded i ffwrdd heb dalu beth mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio yn ei haeddu."
'Colli cwsg'
Ychwanegodd y cynghorydd lleol, Elwyn Williams bod y digwyddiad wedi cael effaith enfawr ar yr ardal, gydag arogl cerosin amlwg a ffordd yr A48 wedi'i chau wrth i'r bibell gael ei thrwsio.
"Doedd llawer o bobl ddim yn gallu cysgu, ac aeth rhai ar eu gwyliau hyd yn oed am ei bod yn cymryd awr i wneud taith pum munud am fod y ffordd ar gau," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Valero eu bod yn "cydnabod bod y gollyngiad o'r bibell wedi achosi anhwylustod i dirfeddianwyr a phobl leol".
"Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda thrigolion a thirfeddianwyr ers mis Hydref y llynedd i'w diweddaru ar y gwaith trwsio, y gwaith adfer ac o ran hawlio am unrhyw effaith niweidiol y cafodd y cerosin," meddai.
"Y tro diwethaf i ni gysylltu 芒'r trigolion oedd ym mis Medi 2017 ac rydyn ni'n parhau i drafod 芒 nhw un ai'n uniongyrchol neu trwy asiantau am iawndal."
Ychwanegwyd eu bod wedi gweithio i helpu unrhyw dirfeddianwyr oedd wedi codi pryderon am eu tir o ganlyniad i'r gollyngiad.
Mae'r cyngor cymunedol yn Llangunnor eto i benderfynu sut i wario'r rhodd o 拢40,000 gan Valero, ac maen nhw'n gofyn am awgrymiadau gan bobl leol.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd i drafod sut i'w wario.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2017