成人快手

Dewis swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

  • Cyhoeddwyd
swyddogion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y swyddogion yw (o'r chwith i'r dde) Dylan Rhys Jones, Sian Eirian, Catherine Jones a Trystan Lewis

Does 'na ddim penderfyniad hyd yma ar leoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, ond mae prif swyddogion y pwyllgor gwaith bellach wedi'u dewis.

Trystan Lewis, sydd yn wreiddiol o Ddeganwy ac yn adnabyddus fel cerddor a dyn busnes, sydd wedi cael ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor.

Bu'n arwain C么r Meibion Maelgwn am flynyddoedd, ac mae'n rhan o nifer o brosiectau i gymell a datblygu doniau ieuenctid yr ardal.

Yr is-gadeirydd yw Si芒n Eirian, cyn-gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd ac un a fu'n gomisiynydd plant S4C, ac sydd bellach yn gyfarwyddwr ar ei chwmni'i hun.

Catherine Jones, athrawes yn Ysgol Glan Clwyd, yw Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith, a chadeirydd y Pwyllgor Cyllid fydd Dylan Rhys Jones - cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Glan Morfa, Abergele a chyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Gogledd Cymru a Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru.

Dewis maes cyn hir

Wrth groesawu'r t卯m dywedodd Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod: "Dyma d卯m arbennig o dda i arwain y gwaith yn Sir Conwy. Mae'r pedwar yn mynd i ddod 芒 phob math o sgiliau i'r prosiect ac rwy'n sicr eu bod yn sylfaen gref i'r gwaith fydd angen ei wneud dros y misoedd nesaf.

"Mae prosiect yr Eisteddfod angen arweinwyr cryf sy'n gallu ysbrydoli timau o bobl, ond rydym hefyd angen llu o aelodau yn y timau sy'n arbenigwyr yn eu meysydd penodol, ac sy'n mynd i lywio'r gwaith dros y misoedd nesaf.

"Roedd yn braf cychwyn ar y gwaith o lunio'r testunau'r penwythnos diwethaf, ac edrychwn ymlaen at y cyfnod prysur nesaf yma er mwyn sicrhau Eisteddfod lwyddiannus iawn yn ardal Sir Conwy ymhen llai na dwy flynedd."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn cael ei chynnal rhwng 2-10 Awst 2019. Mae disgwyl i leoliad y maes gael ei gyhoeddi cyn bo hir.