成人快手

'Gallai'r newidiadau tanwydd gaeaf fod wedi'u cyfathrebu'n well'

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Tonia Antoniazzi y gallai cyfathrebu'r newidiadau fod wedi cael ei wneud yn well

  • Cyhoeddwyd

Gallai'r cyfathrebu ynghylch newidiadau i'r taliad tanwydd gaeaf i bensiynwyr "fod wedi'u gwneud yn well", yn 么l AS Llafur G诺yr.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai dim ond i'r rhai sy'n cael credyd pensiwn neu gymorth arall sy'n dibynnu ar brawf modd y bydd taliadau'n cael eu gwneud yn y dyfodol.

Mae'r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan rai ASau, undebau ac elusennau.

Fe ddaw wrth i鈥檙 Canghellor Rachel Reeves gyflwyno Cyllideb gyntaf Llafur ar Hydref 30ain.

Mae hi eisoes wedi rhybuddio y bydd yn golygu "penderfyniadau anodd" ar drethi, gwariant a budd-daliadau.

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud wrth y 成人快手 y bydd y Gyllideb "anodd" yn "canolbwyntio ar ailadeiladu ein gwlad".

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd Tonia Antoniazzi - sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Gogledd Iwerddon - y gallai cyfathrebu'r newidiadau fod wedi cael ei wneud yn wahanol.

"Gyda'r Lwfans Tanwydd Gaeaf, rydyn ni'n gwybod beth yw'r problemau gyda'r Taliad Cynhwysol. Rydyn ni'n gwybod bod yna lawer o bobl na fydd ei angen, ac efallai bod y rhai sydd ei angen yn colli allan."

鈥淢ae wedi bod yn anodd, oherwydd rwy鈥檔 meddwl y gallai鈥檙 cyfathrebu fod wedi'i wneud yn well.鈥

'Cyfle i ailosod i Gymru'

Dywedodd Ms Antoniazzi hefyd ei bod yn "edrych ymlaen" at y Gyllideb, ac y byddai'n gyfle i "ailosod" i Gymru.

鈥淩wy鈥檔 credu bod Rishi Sunak yn gwybod pan alwodd yr Etholiad Cyffredinol faint o anhrefn yr oedd yn mynd i鈥檞 achosi.鈥

鈥淵chydig iawn o wythnosau a gawsom cyn Toriad yr Haf, a gafodd ei fyrhau, ac yna fe gawson ni bythefnos ac roedden ni ar doriad y gynhadledd.鈥

"Mae'r Gyllideb yn awr yn wir y tro cyntaf y gallwn ei ffitio i mewn. Ond, mae wedi bod yn anodd i ddelio 芒'r hyn y mae pobl yn cymryd sydd ar y gweill."

"Mae'n rhaid i Gymru a Llafur fod 100% yn well na lle'r ydym wedi bod yn y 14 mlynedd diwethaf."

鈥淩ydw i mewn gwirionedd yn edrych ymlaen at y gyllideb hon, oherwydd rydw i eisiau gweld beth sy'n dod, a beth rydyn ni'n mynd i'w wneud, i ailosod y botwm.鈥