成人快手

Nerth mewn galar: Profiad Nia Gwyndaf o golli ei g诺r, Eifion Gwynne

  • Cyhoeddwyd
Eifion Gwynne

Ym mis Hydref y llynedd bu farw Eifion Gwynne wedi iddo gael ei daro gan gar yn Sbaen. Roedd yn 41 oed, yn drydanwr adnabyddus, yn gyn-chwaraewr rygbi ac yn briod 芒 thri o blant ifanc.

Yr wythnos hon mae cyfrol, Galar a Fi, yn cael ei chyhoeddi sy'n cynnwys cyfraniadau gan 14 o bobl sydd wedi profi galar. Un o'r cyfranwyr ydy Nia Gwyndaf, gweddw Eifion, ac mae hi'n rhannu ei stori gyda Cymru Fyw:

'Ofn anghofio'

Naeth Y Lolfa gysylltu tua mis Ionawr i ofyn a fyswn i'n fodlon cyfrannu i gyfrol ar alar.

Bu Eifion farw fis Hydref ac roedd hi'n rhy fuan i fi feddwl sgwennu rhywbeth creadigol yn bwrpasol i'r llyfr ar y pryd.

Nes i egluro mod i ddim mewn sefyllfa i wneud - do'n i ddim hyd yn oed yn gwybod pa ddiwrnod oedd hi.

Roedd pethe wedi digwydd mor sydyn efo Eifion, doedden ni ddim yn gwybod lle i droi.

Ond mi oeddwn i wedi bod yn sgwennu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eifion Gwynne gyda'i blant

Roedd 'na gymaint o bethe'n digwydd a'r plant yn deud pethe, o'n i'n teimlo bod rhaid fi sgwennu'r pethe 'ma lawr.

Ges i lyfr nodiade gan Angharad fy ffrind a nes i ddechre sgwennu at Eifion - pethe oedd y plant yn ddeud, a sut o'n i'n teimlo.

Oedd rhaid i fi ddeud wrth Eifion be' oedd yn digwydd a chael pethe lawr ar bapur. Oedd gen i ofn anghofio.

Nes i sgwennu o'r diwrnod aeth Eifion i Sbaen i ddiwrnod ei angladd - y peth olaf sgwennes i oedd: "Mi rwyt ti tu allan" - sef y bore ddaeth Eifion yn yr arch tu allan i'r t欧.

Dim ffarwel

Dwi'n cofio siarad efo Eifion ar y dydd Gwener ar 么l iddo fo fod yn angladd Emrys [yn Sbaen] ac wedyn ges i'r newyddion ar y nos Sadwrn.

Buodd Eifion farw yn gynnar fore Sadwrn a fuodd yr heddlu ddim at ein drws ni tan chwarter i ddeg y noson honno.

Mae'r holl beth dal yn swreal. Dwi dal yn disgwyl i Eifion ddod n么l drwy'r drws cefn unrhyw funud.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y teulu: Nia, Modlen, Idris, Mabli ac Eifion

Roedden i'n sgwennu at Eifion - mae'n teimlo'n rhyfedd iawn i ddeud hynny ond ges i ddim cyfle i ddeud ta-ra wrtho fo.

Do'n i ddim hyd yn oed yn gwybod yn bendant fod o'n mynd - "gweld ti wedyn" medde fo wrth adael, ond nes i ddim.

Cefnogaeth plant a ffrindiau

Ar y pryd roedd Mabli yn 11, Modlen yn naw, ac Idris yn bump. O'n i'n deud wrth y plant neithiwr, heblaw amdanyn nhw dwi wir ddim yn gw'bod lle fyswn i.

Mae'n rhaid ti gario 'mlaen a dal ati. Aeth Modlen yn 么l i chwarae p锚l-droed ar y dydd Sadwrn wedyn - roedd hi isio routine.

Roedd hi'n hanner tymor ac oedd y plant adre wrth gwrs, a'r dydd Llun wedyn roedden nhw n么l yn yr ysgol.

Ma' pawb wedi bod yn anhygoel - mae'n dod 芒'r gore allan mewn pobl. Ma' pobl wedi bod mor gl锚n - does 'na ddim byd yn ormod o drafferth.

Mae'r gefnogaeth 'de ni wedi ei dderbyn gan deulu a ffrindiau wedi bod yn hollol amhrisiadwy.

Disgrifiad,

Diwrnod arbennig yn Aberystwyth fis Mai i gofio Eifion Gwynne

Dwi wedi sgwennu mod i wedi edrych 'mlaen i'r angladd mewn ffordd od, ond mod i ddim isio'r diwrnod gyrr'edd achos be' sy'n digwydd wedyn.

Naeth hi gymryd dipyn o amser i gael Eifion adre o Sbaen - oedden ni'n trefnu'r pethe ymarferol fel trefniadau'r angladd a chael lle iddo fo gael ei gladdu achos roedd y fynwent yn llawn.

Roedd yr angladd ar 12 Tachwedd felly roedd hi'n dair wythnos union ers y ddamwain. Ddaeth o ddim adre tan ddydd Iau, 3 Tachwedd.

Roedd 'na gymaint o brysurdeb achos o'n i'n trio gweld os allwn ni gael o adre'n gynt ond doedd 'na ddim modd.

Dwi'n gwybod fod hyn yn rhywbeth eitha' od i ddeud ond oedd 'na lot o bethe'n digwydd oedd chydig bach fel sketch o Monty Python.

Roedd yr angladd yn anhygoel - doeddwn i 'rioed yn meddwl bod Eifion yn nabod gymaint o bobl!

'Dyn ni wedi cael miloedd o negeseuon. Dyna sut gaethon ni'r plot er mwyn claddu Eifion yn y fynwent - cafodd 'na neges ei rannu ar Facebook dros fil o weithie.

Ma' 'na lawer o bobl yn deud bod 'na ddrwg yn y cyfryngau cymdeithasol ond mae o wedi bod yn help garw i ni.

'Rhyw nerth o'r holl beth'

Dwi'n falch bod Esyllt [Maelor, golygydd y gyfrol] wedi dewis cynnwys y gwaith. O'n i'n nabod Dafydd mab Esyllt [fu farw yn 2015] - roedd Catrin ei gariad o'n gwneud cyfnod mamolaeth i fi pan ges i Idris.

Ar 么l clywed mai Esyllt oedd yn gwneud y gyfrol o'n i'n fwy na hapus i anfon y gwaith draw, ond o'n i ddim yn si诺r faint o help fyddai o achos mae o'n ffeithiol iawn - ac roedd o bron yn 11,000 o eirie!

Does 'na ddim un ffordd iawn i alaru. Wrth ddarllen y gyfrol ma'n amlwg iawn fod pawb yn ymateb yn wahanol.

Weithie ma' pethe'n gallu bod yn anodd iawn, ond dwi wedi cael rhyw nerth o'r holl beth. Dwi'n benderfynol bod y plant yn mynd i gael y gore.

O'n i'n falch ofnadwy mod i wedi cwrdd ag Eifion, ac mor browd fod o wedi fy newis i yn wraig iddo fo.

A dwi mor falch ohono fo a'r hyn mae o wedi'i gyflawni - ac mae'r ymateb sy' wedi bod yn profi i mi y math o ddyn oedd Eifion, a'r cariad oedd gan bobl tuag ato.

Does 'na ddim eiliad sy'n mynd heibio pan dwi ddim yn meddwl am Eifion. Fydda i wastad yn Mrs Gwynne.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nia ac Eifion

Mae Galar a Fi (Y Lolfa) ar gael yn y siopau nawr.