成人快手

Brecwast newydd Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
betsan powys

Mae gwasanaeth radio newydd yn y Gymraeg ar y ffordd. .

Fe fydd Radio Cymru 2 yn darlledu o 7:00 tan 10:00 bob bore'r wythnos ar radio digidol, teledu digidol a 成人快手 iPlayer Radio. Bydd y Post Cyntaf yn dal i gynnig gwasananeth newyddion ar donfedd Radio Cymru yr un pryd,

Yma mae Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru yn egluro rhagor am y datblygiad newydd arloesol.

Mae gen i ddau o blant ac ydw, dwi'n caru'r ddau run fath yn union. Maen nhw'n wahanol, yn glir a phendant eu barn, weithiau'n deall ei gilydd i'r dim, weithiau maen nhw fel ci a hwch a chredech chi ddim bod nhw'n perthyn.

'Cystal a dim bod ti'n fam i ddau' medde rywun bnawn ddoe. Cyn bo hir fe fydd ishe i griw Radio Cymru ddangos eu bod nhw'n gallu caru run fath yn union ddwy gynulleidfa wahanol, dwy gynulleidfa bwysig - cynulleidfa Radio Cymru, a Radio Cymru 2.

A diolch i'r cyhoeddiad heddiw 'ma bod Radio Cymru 2 ar y ffordd, bob ben bore'r wythnos waith, drwy Gymru gyfan, cyn bo hir fe fydd honno'n her go iawn. Her, a newyddion gwych ym mlwyddyn dathlu'n pen-blwydd yn 40!

Ar gael i bawb

Ar radio FM, ar radio digidol DAB, ar yr ap iPlayer Radio a theledu digidol, fe fydd rhaglenni Radio Cymru ar gael i bawb. Chaiff neb eu hamddifadu o'r amserlen honno. Ond yn y dyfodol, fe fydd dewis yn y bore bach. Os taw dewis eich teulu chi yw codi i swn cerddoriaeth a sgwrsio a chwerthin - yn ogystal ag argraff sydyn o benawdau'r dydd - wel, trowch y botwm. Ar radio digidol DAB, ar yr ap iPlayer a theledu digidol, fe fydd y dewis hwnnw ar gael i chi, yn Gymraeg: Radio Cymru 2. Hen frwydyr; ateb technegol newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd modd gwrando ar y gwasanaeth newydd ar y we, DAB ac ar deledu digidol

Cyn i chi daflu'ch set radio ata i a chwyno nad yw DAB ar gael yn eich pentre, neu'ch cartref chi, rhoswch funud.

Mae'r gwrando ar setiau DAB wedi tyfu'n gyflym ac yn dal i dyfu'n gyflym. Mae gan 50% o bobol Cymru bellach set DAB. Mae'r si芒r gwrando digidol wedi cynyddu i 34% o holl wrando radio yng Nghymru. Yn raddol, wrth i geir newydd, a gwell fyth, geir ail-law gynnig setiau gwrando DAB, codi eto wnaiff y ganran honno.

Na, dydy DAB ddim yn cyrraedd pawb. Falle'i fod yn cyrraedd y llofft ond yn methu yn y gegin. Ond cofiwch y bydd modd gwrando ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 drwy'r teledu a thrwy gyfrifiadur a chliniadur, llechen a ffon. Dyma'r arfau sydd gyda ni, a dyma ymgais i'w defnyddio nhw er gwell i ateb hen alw am ddewis ar y radio yn y Gymraeg.

Disgrifiad,

Betsan Powys yn trafod gwasanaeth newydd Radio Cymru 2 ar y Post Cyntaf.

Ffydd yn y gynulleidfa

A 'styriwch hyn: mae'r cyhoeddiad hwn, y buddsoddiad hwn, yn dangos bod 'na ffydd yn Radio Cymru a'i chynulleidfa yn 2017. Dyma brawf o hyder ynon ni i gyd am flynyddoedd i ddod, yn griw'r orsaf ac yn wrandawyr.

A nawr, dyma her i chi. Cyn i chi holi prun ai cam cyntaf yw sioe frecwast Radio Cymru 2, cyn i chi holi oes yna ehangu i fod, y gwir yw mai yn eich dwylo a'ch clustiau chi'r gwrandawyr posib mae'r ateb i gwestiynau felly. Os dewiswch chi droi at Radio Cymru neu Radio Cymru 2 yn y bore a'n helpu ni i greu rhaglenni sy'n apelio a phlesio, yna fe fyddwch chi'n rhoi nerth ym mon braich y naill wasanaeth a'r llall.

Rhowch eich barn, holwch gwestiynau ond am heddiw, dathlwch gyda ni. Mae Radio Cymru 2 ar y ffordd.