成人快手

'Dani n么l!

  • Cyhoeddwyd
Detholiad o fandiau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r bandiau sydd n么l neu sydd erioed wedi bod i ffwrdd: Eden, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Melys, Topper, Llwybr Llaethog, Datblygu, Meic Stevens, Maffia Mr Huws a Geraint Jarman

Ar Ddydd Miwsig Cymru roedd amrywiaeth a chyfoeth cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn cael ei ddathlu gan ddangos nad oes dim prinder o fandiau ac artistiaid newydd yn y s卯n gerddorol yng Nghymru heddiw.

Ond does dim golwg bod 'hen stejars' y s卯n yn barod i roi'r ffidil - neu'r git芒r os ydych chi'n un o ffans Maffia Mr Huws - yn y to eto chwaith, gyda mwy nag un band wedi ailffurfio'n ddiweddar.

Yn 2016 ailgydiodd ambell fand o'r 1990au a'r 2000au ynddi: Topper yn perfformio eu gig cynta' ers dros 10 mlynedd yn Ng诺yl Rhif 6; Melys ar daith gyda The Wedding Present a mwy o gigs ar y gweill a daeth Eryr Wen yn 么l at ei gilydd am un noson hefyd i gofio am eu cyn aelod, Andrew 'Pwmps' Davies.

Ond yn 么l Golwg 360 , a hynny yng ng诺yl Tafwyl, Caerdydd 2016.

Nos Wener, 10 Chwefror, roedden nhw'n perfformio yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, ac yn gobeithio trefnu mwy o gigs wrth iddyn nhw ddathlu pen-blwydd eu halbym 'Paid 芒 bod ofn' yn 21 oed yn 2017.

Ffynhonnell y llun, Twitter/Eden

Band merched ddaeth 芒 chwistrelliad o bop slic i s卯n oedd yn eitha trwm ar fandiau git芒rs yn y nawdegau oedd Eden.

Wnaeth y gr诺p ddim dod i ben yn swyddogol meddai Non Parry, sydd bellach yn Williams: "Cwbl nathon ni oedd cael plant mewn gwirionedd - a gweithio ar cwpl o bethe gwahanol."

Ond doedden nhw ddim wedi gigio efo'i gilydd ers bron i 15 mlynedd pan wnaethon nhw ymddangos yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint ac yna cael gwahoddiad i berfformio yng ng诺yl Tafwyl, Caerdydd.

Fe gymerodd amser iddyn nhw benderfynu cymryd y cam ai peidio meddai Non: "Oedd na gryn dipyn o drafod, achos bod ni'n h欧n ac achos bod o'n gr诺p pop, a dach chi'n dueddol o feddwl am pop fel rhywbeth ifanc iawn a'r dawnsio hefyd," meddai Non.

"Weithia ti'n meddwl falle bod ni chydig yn rhy hen, falle bod o'n well gadael pethe fel roedden nhw. Ond doedden ni ddim yn disgwyl yr ymateb gawson ni o gwbl - oedd o mor brilliant."

Cafodd eu perfformiad ei alw'n "cymbac y ganrif" ac yn un o uchafbwyntiau'r 诺yl gyda llawer o ffans oedd yn blant pump neu chwech oed pan oedd Eden yn eu hanterth rwan yn eu hugeiniau ac yn dal i wybod y geiriau i gyd.

Mwy hyderus

Yn 么l Non mae hi, Rachael Solomon ac Emma Walford yn mwynhau'r profiad yn llawer mwy yr ail waith rownd: "Pan oeddan ni'n ifanc oeddan ni'n poeni lot mwy, ac oeddan ni mor brysur.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Eden yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016

"Pan nathon ni gychwyn doedd na ddim lot o ferched [ar y s卯n], oedd hi'n indie iawn a lot o fandiau o gwmpas, felly aeth pawb yn boncyrs efo Eden, oedd na ryw fath o ffrwydriad, a gathon ni gymaint o waith.

"Dwi ddim yn meddwl bod ni'n gwerthfawrogi pa mor brysur oeddan ni ar y pryd - oeddan ni jyst yn mynd o un job i'r llall."

Ond maen nhw'n fwy hyderus r诺an meddai Non, yn gwybod pwy ydyn nhw a llai o bwysau yn golygu nad ydyn nhw'n poeni gymaint:

"Pan ydech chi'n ifanc dach chi'n dueddol o gymryd unryw feirniadaeth lot mwy i'ch calon. Erbyn y diwedd oeddan ni'n dechre meddwl fod pawb yn ffed yp ohonan ni.

"Doeddan ni ddim yn gwerthfawrogi ar un llaw ac eto'n poeni bod hi'n hen bryd inni fynd allan o ffordd ar y llaw arall.

"Ond mae o'n lyfli rwan dani'n h欧n ac yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio gyda'n gilydd.

Ffynhonnell y llun, Eden

"Faswn i'n deud bod ni'n trio'n galetach y tro yma ond hefyd dani'n mwynhau o mwy ac yn gallu meddwl 'wel dio ddim yn ddiwedd y byd'".

Mae Emma yn cytuno: "Yn sicr gan ein bod 20 mlynedd yn h欧n 'da ni ddim yn poeni cyn gymaint ac oedden ni," meddai.

"Mae'r rhesymau dros berfformio yn wahanol a da ni'n mwynhau y cyfnod yma yn fawr.

"Roedd Tafwyl yn brofiad anhygoel a'r ymateb mor bositif a charedig."

Mae Non yn cyfaddef mai nostalgia sy'n denu'r gynulleifa yn 么l ar hyn o bryd ac er bod y band yn gwbl hapus i ganu'r hen ganeuon fe hoffai wneud caneuon newydd maes o law.

'Mid-life crisis?'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydy Daniel Lloyd a Mr Pinc yn cael 'mid-life crisis'?

Band arall sy'n ailffurfio eleni ydy Daniel Lloyd a Mr Pinc a ganodd am Oleuadau Llundain ac Eldon Terrace.

Fe fyddan nhw'n perfformio yn nhafarn y Saith Seren yn Wrecsam ar 3 Mawrth ac yn gobeithio trefnu mwy o gigs wedyn.

Ar wah芒n i un gig arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011, pan oedd yr 诺yl yn ardal enedigol Daniel Lloyd, y prif leisydd o Rosllannerchrugog, dydi'r band ddim wedi bod efo'i gilydd ers bron i saith mlynedd meddai'r drymiwr Elis Roberts.

Mae'n cyfadde hefyd fod na elfen o greisus canol-oed i'w hawydd i ddod n么l at ei gilydd!

"Dwi'm yn meddwl bod ni wedi penderfynu stopio neu chwalu erioed, jyst digwydd yn naturiol wnaeth o - rhwng bod pawb yn brysur efo jobsys a teuluoedd ifanc a Dan efo'i waith sy'n tueddu i olygu ei fod i ffwrdd am gyfnodau hir," meddai.

"Oedd o jyst yn teimlo'n adeg da i ailgydio mewn pethau.

"Ddaru run ohonan ni erioed feddwl fod o'n yrfa siriys neu'n rwbeth i'w gymryd o ddifri, bach o hwyl ydi o di bod, ac ella bod ni'n colli chydig ar y hwyl yna - bach o mid-life crisis buan i bawb ydi o!"

Tra mae Elis yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu mae Daniel Lloyd yn brysur fel actor a cherddor proffesiynol. Mae newydd orffen cyfnod yn y West End yn Llundain yn y sioe The Committments.

Fel yn achos Eden, mae bod yn h欧n yn golygu eu bod nhw'n fwy hyderus meddai Elis: "Ella bod o'n haws tro yma, dim bod na bwyse o'r blaen, ond ma'n teimlo ein bod ni'n neud o jyst am hwyl r诺an."

Pwy fydd nesa?

Dangosodd y miloedd a heidiodd i faes Eisteddfod Genedlaethol 2013 i weld 'gig olaf' Edward H Dafis fod nostalgia yn fyw ac yn iach, ac weithiau'n gallu denu cynulleidfa fwy na bandiau ifanc.

Ac mae Dafydd Iwan, Bryn F么n, Geraint Jarman, Meic Stevens, Llwybr Llaethog, Datblygu, Maffia a llwyth o berfformwyr eraill wedi dangos nad ydi'r blynyddoedd yn pylu dim ar yr awydd i berfformio unwaith mae'r gerddoriaeth a'r gigio wedi gafael.

Pwy 芒 诺yr pwy arall fydd yn cyhoeddi eu bod nhw n么l yn 2017?!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth cynulleidfa dda i weld Topper n么l wrthi yng Ng诺yl Rhif 6 2016