Cyngerdd i gofio am Andrew 'Pwmps' a chodi arian
- Cyhoeddwyd
Am un noson yn unig bydd y band o'r wythdegau, Eryr Wen, yn perfformio nos Sadwrn ym Mronwydd, Sir Gaerfyrddin, i gofio am Andrew 'Pwmps'.
Bu farw Andrew 'Pwmps' Davies yn 52 oed ym mis Chwefror 2016 wedi brwydr hir yn erbyn canser.
Roedd yn gyn-aelod o fand Eryr Wen.
Wedi hynny, bu'n ddyn camera gan weithio ar nifer o raglenni ar gyfer S4C a 成人快手 Cymru.
Roedd yn adnabyddus ar draws Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'n rhedeg Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig, Llio.
Cronfa
Yn ogystal 芒 chofio cyn-aelod y band, fe fydd y 'Noson Nostalgia' hefyd yn codi arian at elusen newydd sydd wedi cael ei enwi ar ei 么l.
N么d yr elusen, a fydd yn cael ei hadnabod fel Cronfa Andrew Pwmps, yw codi arian ar gyfer pobl sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ac sy'n dioddef o salwch difrifol.
Yn 么l trefnydd y noson, Dyfrig Davies: "Dymuniad mawr Andrew o'dd, hyd yn oed yn ei waeledd olaf, bod ni'n cofio am bobl eraill sy'n dioddef.
"Mae 'na gyfnod rhwng pan mae rhywun yn s芒l ac yn cael y diganosis, lle nad oes neb, mewn gwirionedd, yn eu helpu nhw, ac fe all yr amser 'na fod yn eitha' hir os ydych yn ddibynnol ar waith llawrydd neu'n hunan-gyflogedig ac heb yswiriant - dwi'n gobeithio y gall y gronfa helpu yn yr achosion hynny."
Roedd Andrew yn arfer chwarae'r drymiau gydag Eryr Wen.
Aelod arall o'r band oedd Ioan Hefin: "Mae'r sbardun wedi bod yn anffodus ond mae e hefyd yn gyfle i ni ddathlu.
"Mae'n eironig reit o'r dechrau fod y noson yn cael ei chynnal ar noson troi'r cloc yn 么l... dyma gyfle hefyd i bobol canol oed, diflas a moel i ddod at ei gilydd a chreu tamed bach o nostalgia!"
Yn perfformio hefyd yn y cyngerdd nos Sadwrn fe fydd Ail Symudiad a Cadi Gwen, ac fe fydd Richard Rees hefyd yn rhan o'r noson.