成人快手

Beth yw Erthygl 50?

  • Cyhoeddwyd
Erthygl 50

Erthygl 50 ydy'r teclyn cyfreithiol o fewn Cytundeb Lisbon 2009 sy'n galluogi i wledydd adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd ei gynllunio gan gyn Brif-Weinidog yr Eidal, Giuliano Amato, sydd wedi cyfaddef nad oedd o'n credu y byddai'n cael ei ddefnyddio.

Yn 么l Mr Amato, er mai teclyn cyfreithiol ydy'r cymal, yr unig reswm am ei gynnwys yn y cytundeb oedd cadw Prydain yn hapus fod yna ffordd o adael yr undeb!

Unwaith mae gwlad yn tanio Erthygl 50 mae ganddi ddwy flynedd cyn y bydd yn gadael yr undeb.

Mae Theresa May wedi dweud ei bod am danio'r broses cyn diwedd mis Mawrth.

Unwaith fydd hynny yn digwydd, fydd Prydain ddim yn cael bod yn rhan o'r trafodaethau swyddogol yngl欧n 芒'r manylion; arweinwyr 27 gwlad arall yr undeb fydd yn gwneud hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i brif weinidog gwlad ddefnyddio Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd

Bydd Prydain yn parhau i fod yn rhan o drafodaethau cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd, ond fydd hi ddim yn trafod unrhyw fanylion sy'n ymwneud 芒 Brexit.

Un cwestiwn mawr ydy; pa mor debygol ydy hi bydd modd gorffen y broses o adael yr undeb o fewn dwy flynedd?

Mae rhai arbenigwyr ar gyfraith yr UE yn credu y gallai gymryd yn hirach o lawer; hyd at 10 mlynedd.

Torri tir newydd

O fewn Erthygl 50 mae cymal sy'n caniat谩u i'r broses barhau am fwy na dwy flynedd, ond byddai angen cefnogaeth unfrydol y gwledydd eraill i ganiat谩u hynny.

Mae hi werth cofio hefyd na fydd pob un manylyn o ran perthynas Prydain gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o drafodaethau Erthygl 50.

Bydd yna drafodaethau yngl欧n 芒 thelerau masnach gyda gwledydd unigol ar 么l y ddwy flynedd.

Yn 么l Comisiynydd Masnachu yr Undeb, Cecilia Malmstrom, ni fydd Prydain yn gallu arwyddo cytundebau masnachu newydd gyda gwledydd eraill tan ddiwedd y ddwy flynedd.

Does yna ddim achos arall o wlad yn gadael yr Undeb Ewropeaidd drwy ddefnyddio Erthygl 50, felly i raddau mae'r broses hon yn torri tir newydd.