成人快手

Adolygiad ffioedd dysgu: Dadansoddiad

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr

Mae Adolygiad Syr Ian Diamond i gyllid myfyrwyr wedi argymell cyflwyno grant i helpu gyda chostau byw myfyrwyr, yn hytrach na thalu ffioedd dysgu. Gohebydd Gwleidyddol 成人快手 Cymru, Aled ap Dafydd sy'n dadansoddi.

Mae cael polisi ffioedd dysgu credadwy a chynaliadwy yn un o gonglfeini unrhyw lywodraeth. Gofynnwch i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Gellir dadlau fod y blaid honno yn parhau i dalu'n ddrud am dorri addewid wnaeth y blaid yn 2012 i beidio codi ffioedd dysgu yn Lloegr.

A datblygiadau dros y ffin sydd wedi dylanwadu ar y sefyllfa yng Nghymru.

Wrth i ffioedd godi yn Lloegr, dyna ddigwyddodd yng Nghymru hefyd, i 拢9,000 yn ddibynnol ar brifysgolion yn agor eu drysau i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Llywodraeth Cymru fyddai'n cyfrannu hyd at 拢5,100.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kirsty Williams yw'r Ysgrifennydd Addysg

Ond roedd rhybuddion o'r cychwyn y byddai hyn yn rhy gostus yn y tymor hir ac felly profodd hi.

Cyhuddiad y Ceidwadwyr oedd bod degau o filiynau o bunnoedd yn diflannu i'r sector addysg uwch yn Lloegr. Er bod y polisi yng Nghymru yn "ddewr", dywedodd cyn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru yr Athro David Reynolds nad oedd y "cymhorthdal hael o bosib wedi dylanwadu ar y niferoedd oedd yn mynd i sefydliadau addysg uwch".

Y newyddion da i Lywodraeth Cymru ydi fod 'na gonsensws gwleidyddol yngl欧n 芒'r ffordd ymlaen; symud y pwyslais oddi wrth talu ffioedd i system sydd yn rhoi grantiau ar gyfer costau byw.

Ac fe all yr ysgrifennydd addysg Kirsty Williams, Democrat Rhyddfrydol, adfer ychydig o hygrededd i'w phlaid yn y maes yma gan y bydd ganddi gefnogaeth y llywodraeth Lafur pe bai hi yn mabwysiadu argymhellion Diamond.

Pawb yn hapus?

Pawb yn hapus felly? Wel ddim o reidrwydd.

Does dim ffrae ar y gorwel eto ond fe allai un ddatblygu. Mae newid i dalu grantiau yn hytrach na ffioedd yn gallu arbed 拢100m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.

Dylai'r arian fynd i sefydliadau addysg uwch yn 么l adroddiad Diamond ond beth petai Llywodraeth Cymru yn gweld hwn fel cyfle i arbed arian a pheidio pasio'r arian ymlaen?

Byddai Prifysgolion Cymru, sydd wedi cwyno ers blynyddoedd eu bod nhw'n colli allan, ac asgwrn arall i'w grafu.