Ateb y Galw: Gareth Charles
- Cyhoeddwyd
Gareth Charles, Gohebydd Rygbi 成人快手 Cymru, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Dot Davies yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cerdded i'r ysgol am y tro cynta' i Ysgol Ponthenri 'da'n ddau frawd. Roedd shorts streip reversible smart iawn 'da fi!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Raquel Welch yn ei bicini croen anifail yn y film One Million Years BC. Ro'n i'n chwech oed pan ddaeth y ffilm mas!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Sownd mewn traffic ar gyrion Abertawe a chlywed Lyn Davies ar Radio Wales yn disgrifio Paul Thorburn yn sgori dau gais i Gastell Nedd yn erbyn Abertawe wedyn troi i Radio Cymru a chlywed y cyflwynydd Alun Jenkins yn ymddiheurio am y "trafferthion technegol" yn cysylltu 芒 Gareth Charles a Brynmor Williams yn Sain Helen! Wps.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Mewn angladd rhyw ddeufis n么l.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Llwyth. Craco knuckles yn mynd ar nerfs rhai pobl. Fi'n ofnadwy o funud ola' - o ran gwneud gwaith a mynd i lefydd - gas 'da fi gyrraedd yn gynnar a gorfod sefyllian ambwyti am hydoedd.
P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberogwr - lle gwych i fynd am w芒c 'da'r ci tra'n mwynhau golygfeydd gwych, ac mae'n gyfleus i gyrraedd o Gaerdydd. A ma' cwpwl o dafarndai deche gerllaw 'fyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Sawl un, o City Rowers, Brisbane i Buenos Aires News i Heol Sardis. Un o'r dyddiau gorau oedd ymweliad 芒 gwinllan ger Christchurch ar daith y Llewod 2005.
Roedd hanner dwsin o bob math o winoedd coch a gwyn i gyd o Seland Newydd ac roedd modd blasu faint bynnag o be' bynnag. Ac roedd pryd o fwyd gan un o chefs gorau'r wlad gyda gweddill y gwin! Diwrnod da neu be'!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Swil, mewnblyg, sbort.
Beth yw dy hoff lyfr?
Newid drwy'r amser. Un o'n hoff awduron yw David Mitchell (nid y digrifwr!). Naill ai Number 9 Dream neu Cloud Atlas falle. Yn Gymraeg Bob yn y Ddinas gan Sion Eirian. Ddarllenes i pan es i i Brifysgol Caerdydd.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Oriawr - er mwyn gallu gadel pethau tan y funud ola'!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Weles i ryw 10 ar y ffordd n么l a 'mlaen i Seland Newydd yn yr haf - bron yr unig adeg y byddai'n gweld ffilmiau. Un o'r goreuon oedd Legends a pherfformiad rhyfeddol Tom Hardy fel Ronnie a Reggie Kray.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Bob Hoskins.
Dy hoff albwm?
Newid drwy'r amser yn dibynnu ar y mood. O bosib rwbeth gan Jackson Browne - The Pretender neu Late For The Sky.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?
Fi wrth fy modd 'da 'bitsach'. Joio lot o flasau gwahanol - ffili deall neb sy' ddim yn fodlon rhannu bwyd! Wrth lwc dwi wrth fy modd 芒 salad felly'r peth delfrydol i fi byddai buffet o salads o safon gan gynnwys cigoedd, bwyd m么r a chawsiau fel gallen i ga'l plat bach starter, plat bach main a phlat bach pwdin! Ond bydde rhaid cael chardonnay deche i fynd 'da fe.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fy nghi, Sianco - mae yffach o fywyd 'da fe!
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Carolyn Hitt.