成人快手

Radio Cymru Mwy yn dechrau darlledu

  • Cyhoeddwyd
Radio Cymru Mwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elan Evans, Gwennan Mair, Caryl Parry Jones a Steffan Alun yw rhai o gyflwynwyr gwasanaeth newydd Radio Cymru Mwy

Mae gorsaf dros dro Radio Cymru Mwy wedi dechrau darlledu am y tro cyntaf heddiw, gyda phwyslais ar "fwy o gerddoriaeth a hwyl".

Fe gyhoeddodd 成人快手 Cymru y cynllun peilot ar gyfer yr orsaf fel rhan o ddatblygiadau digidol y gwasanaeth i nodi ei phen-blwydd yn 40 oed.

Caryl Parry Jones yw'r cyflwynydd cyntaf i gael ei chlywed ar yr orsaf, wrth iddi ddechrau'r bore gyda'i sioe frecwast.

Bydd cyflwynwyr eraill Radio Cymru Mwy yn cynnwys Ifan Evans, Huw Stephens a Dylan Ebenezer, yn ogystal 芒 lleisiau newydd fel Steffan Alun, Elan Evans a Gwennan Mair.

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd 成人快手 Radio Cymru: "Os mai cerddoriaeth cwmni a chwerthin yw'ch dewis chi yn y bore, dyna fydd s诺n Radio Cymru Mwy. Ac mae gallu cynnig y dewis holl bwysig i Gymry Cymraeg bob bore yn hynod o gynhyrfus.

"Mae'n rhaid cofio mai arbrawf yw hwn fydd yn rhoi cyfle i ni asesu be' sy'n bosibl dros gyfnod penodol. Mae hi'n gyfnod o newid mawr ym myd darlledu ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymchwilio sawl trywydd wrth geisio sicrhau ein bod ni'n ateb galw'r gwrandawyr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Betsan Powys, golygydd 成人快手 Radio Cymru.

Fe fydd y cynllun peilot yn rhedeg am 15 wythnos tan 2 Ionawr 2017, 40 mlynedd union i noswyl lansio 成人快手 Radio Cymru ar 3 Ionawr 1977.

Mae modd gwrando i'r orsaf dros dro ar wefan Radio Cymru Mwy, ar yr ap 成人快手 iPlayer Radio ac fel dewis ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain.

Disgrifiad,

Radio Cymru Mwy yn lansio, gan addo "mwy o gerddoriaeth, mwy o hwyl, mwy o ddewis."

Mae'r datblygiad wedi cael ei groesawu gan fudiadau gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, sy'n ddweud yr hoffen nhw weld y gwasanaeth yn ehangu fel bod modd ei gael ar radio digidol ar draws Cymru yn y dyfodol.

"Ry'n ni'n croesawu'r lansiad yma gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg, ar gyfer pobl ifanc yn enwedig," meddai Curon Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith.

"Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth. Rydyn ni'n galw ar i'r 成人快手 ymestyn y gwasanaeth i radio digidol ym mhob rhanbarth o Gymru, yn hytrach na'r de ddwyrain yn unig."