成人快手

Ateb y Galw: Ben Davies

  • Cyhoeddwyd
ben

P锚l-droediwr Cymru a Tottenham Hotspur, Ben Davies, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Heini Gruffudd yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgofion cyntaf yw eistedd gyda fy nhad a gwylio chwaraeon ar y teledu. Mae'n siwr o'n i'n tua pedair oed ar y pryd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Merch yn yr ysgol o'dd hi- ond dwi ddim am enwi enwau!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd rhaid i mi fynd ar y llwyfan unwaith a dawnsio gwerin yn yr ysgol. I fi roedd hynny yn hunllef llwyr!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi ddim yn un sy'n cr茂o llawer, felly i fod yn onest dwi ddim yn cofio!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n cnoi fy ngwinedd.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traethau'r Mwmbls. Maen nhw mor hardd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Curo Gwlad Belg yn Euro 2016. Mae honno'n noson wnai fyth ei anghofio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ben yn brwydro am y b锚l efo Marouane Fellaini yn y fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gonest, gweithgar a phenderfynol.

Beth yw dy hoff lyfr?

Mae 'The Godfather' gan Mario Puzo yn anghygoel - mae'n well na'r ffilm!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Mae fy nghrys Cymru pan wnes i ennill fy nghap cyntaf yn dal gen i ac mae'n golygu lot fawr i fi.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Central Intelligence', roedd e'n ok.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Dyw Leonardo DiCaprio ddim yn gwneud ffilm wael nagyw?! Bydde rhaid imi fynd amdano fe.

Dy hoff albwm?

Dwi'n hoff o'r Stereophonics felly byddwn i'n dewis eu Greatest Hits nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arwyddodd Ben i Tottenham Hotspur yn mis Gorffennaf 2014

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Pwdin ac bydde rhaid dewis cacen siocled. Mae gen i ddant melys.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n meddwl efallai David Beckham, dyw ei fywyd e ddim yn edrych rhy ddrwg ar y funud.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Joe Allen