Lend Lease wedi ei ddewis i adeiladu carchar Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cwmni Lend Lease sydd wedi eu dewis i adeiladu carchar newydd ger Wrecsam.
Dywedodd y Gweinidog Carchardai, Jeremy Wright y byddai'r carchar yn costio cyfanswm o 拢212miliwn, gyda'r cytundeb i'w adeiladu gwerth 拢151miliwn i Lend Lease.
Yn 么l y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r cynlluniau yn cynnwys 拢50miliwn i'w wario gyda busnesau bychain a chanolig, a 拢30miliwn i'w wario gyda busnesau lleol.
Dywed y weinyddiaeth hefyd y bydd 50% o'r gweithlu yn cael eu recriwtio o'r ardal leol, gan gynnwys creu 100 o brentisiaethau.
2,100 o garcharorion
Mae disgwyl i waith adeiladu ddechrau ym mis Awst, gyda'r carchar yn agor yn hwyr yn 2017.
Bydd y carchar yn dal hyd at 2,100 o garcharorion, gan olygu mai dyma fydd y carchar fwyaf yn y DU.
Y gred yw y bydd dros 700 o swyddi parhaol yn cael eu creu i staff fydd yn rhedeg y carchar, yn ogystal a swyddi adeiladu.
Ond mae rhai wedi codi amheuon am wir fudd y carchar newydd, gan ddweud na fydd yn creu cymaint o swyddi, nac yn dod a buddion i'r economi leol.
Dywedodd Jeremy Wright: "Roeddem yn gwybod y byddai carchar newydd yng Nghymru yn hwb aruthrol i economi Cymru, ac rwyf wrth fy modd y bydd pobl leol yn elwa ohono.
"Bydd y cytundeb hwn yn sicrhau y bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario gyda 成人快手hau [busnesau bach a chanolig], ynghyd 芒 lefelau sylweddol o waith i fusnesau lleol a phobl ifanc - elfen allweddol o gynllun tymor hir y Llywodraeth hon i adeiladu economi cryfach.
"Bydd y carchar cyntaf hwn yng ngogledd Cymru yn hwb sylweddol hefyd i'r st芒d carchardai, gan helpu i sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau posib a chadw troseddwyr yn nes at eu cartrefi yr un pryd, er mwyn helpu i atal aildroseddu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd4 Medi 2013