成人快手

'Carchar i greu swyddi lleol' yn 么l gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Ymweliad carchar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cyfle i David Jones a Jeremy Wright weld hen safle Firestone, lle bydd y carchar newydd yn cael ei godi

Bydd swyddi yng ngharchar newydd Wrecsam yn mynd i gyflenwyr a gweithwyr lleol, yn 么l gweinidog carchardai llywodraeth y DU, Jeremy Wright.

Roedd Mr Wright yn ymweld 芒 safle'r carchar newydd ar stad ddiwydiannol Wrecsam gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Dywedodd Mr Wright ei fod yn disgwyl i rwng 800 a 1100 o swyddi gael eu creu yn y carchar, a mwy yn ystod y broses adeiladu, ac y byddai llawer yn mynd i bobl leol.

Mae caniat芒d cynllunio eisoes wedi ei roi i godi carchar yn Wrecsam gyda lle i 2,100 o garcharorion.

Mae disgwyl i'r gwaith o godi'r carchar - y cyntaf yng ngogledd Cymru - ddechrau yn yr haf, gyda'r adeilad yn agor ei ddrysau erbyn diwedd 2017.

Yn 么l amcangyfrifon fe fydd y carchar yn creu hyd at 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb i'r economi yn y rhanbarth o tua 拢23 miliwn y flwyddyn.

Busnesau i elwa?

Ddydd Mawrth fe gafodd cyfarfod arbennig ei drafod rhwng contractwyr sy'n gyfrifol am godi'r adeilad a busnesau lleol.

Ymhlith y cwmn茂au lleol sy'n gobeithio elwa mae rhai yn y diwydiant adeiladu, systemau larwm, gwasanaethau glanhau, ffensio, gwasanaethau trydanol, peintio ac addurno, plastro, diogelwch, rheolaeth sbwriel a chyflenwyr llafur llawrydd.

Wedi'r ymweliad, dywedodd Jeremy Wright: "Busnesau bach sydd wrth galon ein gwlad, ac maen nhw'n angenrheidiol er mwyn adeiladu economi gryf a chynnaladwy.

"Dyma pam yr ydym mor awyddus i gontractwyr eu defnyddio fel rhan o'r broses adeiladu."

Dywedodd David Jones: "Rydw i'n falch bod cymaitn o fusnesau wedi dangos diddordeb mewn darparu gwasanaethau sydd eu hangen i adeiladu carchar newydd gogledd Cymru.

"Rydym wedi ymrwymo i annog busnesau llai i wneud ceisiadau am waith, felly mae'n dda gweld bod gymaint o gyflenwyr lleol yn edrych am y cyfleoedd y mae'r carchar newydd yn ei gynnig."